Helygen
Salix | |
---|---|
![]() |
|
Salix alba 'Vitellina-Tristis' Morton Arboretum acc. 58-95*1 |
|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosperms |
Ddim wedi'i restru: | Eudicots |
Ddim wedi'i restru: | Rosids |
Urdd: | Malpighiales |
Teulu: | Salicaceae |
Llwyth: | Saliceae[1] |
Genws: | Salix L. |
Rhywogaethau | |
Tua 400.[2] |
Coeden fechan, ysgafn ydy'r helygen (Lladin: salix; Saesneg: willow) a cheir tua 400 gwahanol math[2] o'r coed collddail a llwyni hyn. Y gair lluosog amdani yw helyg fel yn y gân honno gan Meic Stephens: Cwm y Pren Helyg. Mae'r goeden hon yn fwyaf cyffredin mewn tir gwlyb yng ngwleddydd hinsawdd oer Hemisffer y Gogledd. Fel sy'n digwydd yn aml mewn benthyciadau o'r Lladin mae'r ddwy lythyren "s" a "h" yn cyfnewid; benthyciad yw'r gair "helyg" o "salix", felly, diolch i'r ymwelwyr Rhufeinig ddwy fil o flynyddoedd yn ôl.
Tyf y rhywogaethau arctig ac alpaidd yn debycach i lwyni isel na choed, e.e. anaml iawn mae'r Salix herbacea yn tyfu'n uwch na 6 cm (2 fodfedd), er ei fod yn lledaenu'n wyllt dros wyneb y tir.
Mae helyg yn croes-ffrwythloni'n hawdd, a cheir llawer o wahanol rywogaethau oherwydd hyn. Mae'n eitha rhwydd creu amrywiad annaturiol ohoni fel a wnaed gyda'r helygen wylofus (Salix × sepulcralis), sydd wedi'u haddasu o'r helygen Peking (Salix babylonica) o Tseina a'r helygen wen (Salix alba) o Ewrop.
Y blodau[golygu | golygu cod y dudalen]
Ymddengys y blodau gwryw a benyw fel cynffonau ŵyn bach ar wahanol blanhigion; tyfant ar ddechrau'r gwanwyn yn aml iawn cyn i'r dail dyfu. Nid oes gan y blodau gwryw na benyw galycs na phistil.
Nodweddion meddygol[golygu | golygu cod y dudalen]
Sonir am nodweddion y goeden hon mor bell yn ôl â 1,700 C.C.[3] Defnyddiwyd ef ledled y byd gan gynnwys y Rhufeiniaid a Brodorion America. Ceir salicin yn y pren helyg, cyfansoddyn sydd hefyd mewn tabledi Aspirin.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Genus Salix (willows)". Taxonomy. UniProt. http://www.uniprot.org/taxonomy/40685. Adalwyd 2010-02-04.
- ↑ 2.0 2.1 Mabberley, D.J. 1997. The Plant Book, Cambridge University Press #2: Caergrawnt.
- ↑ Gwefan Tour Egypt; adalwyd 17 Medi 2012