Seoul
Seoul (Coreeg: 서울) yw prifddinas De Corea a'r ddinas fwyaf yn y wlad, gyda phoblogaeth o 10,356,000.
Saif y ddinas yn nalgych Afon Han yng ngogledd-orllewin y wlad, tua 50 km i'r de o'r ffîn a Gogledd Corea. Ceir y cofnod cyntaf amdani yn 18 CC, pan sefydlodd teyrnas Baekje ei phrifddinas Wiryeseong yn yr hyn sy'n awr yn dde-ddwyrain Seoul. Tyfodd dinas Seoul ei hun o ddinas Namgyeong.
Saif y ddinas yn Ardal Prifddinas Genedlaethol Seoul, sydd hefyd yn cynnwys porthladd Incheon a llawer o faestrefi, ac sydd a phoblogaeth o tua 23 miliwn. Mae bron hanner poblogaeth De Corea yn byw yn yr ardal yma.
Cynhaliwyd y Gemau Olympaidd yma yn 1988 a gêm derfynol Cwpan y Byd Pêl-droed 2002.
Awdurdodau Dosbarth[golygu | golygu cod y dudalen]
Rhannir Seoul yn 25 awdurdod dosbarth, neu gu (구) yng Nghoreeg.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Seoul Organizational Chart - Districts (Saesneg) Gwefan Llywodraeth Dinas Seoul; Adalwyd 6 Ebrill 2014