Bwyell
Oddi ar Wicipedia

Bwyellwr modern mewn cystadleuath torri coed yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd Avilés, Asturias yn Sbaen.
Arf i dorri coed fel arfer ydy bwyell. Mae'n arf hynafol iawn ac fe'i gwnaed yn gyntaf allan o garreg ac yna o gopr, efydd, haearn ac erbyn heddiw, i gryfhau'r fwyell caiff ei wneud allan o ddur gyda choesyn o bren neu ddefnydd synthetig.

Bwyell law o Oes yr Iâ.
Mae gan y fwyell ddwy ran, fel arfer: handlen bren er mwyn ei gydio a llafn, sef y darn metel, sy'n hollti'r pren i'r naill ochor a'r llall. Ceir tim o fwyellwyr o ardal Gwynedd o'r enw "Bwyellwyr Gwynedd".
Cyfeiriadau llenyddol[golygu | golygu cod y dudalen]
- Canodd Alan Llwyd englyn:
- I fwyellu'r afallen - daeth ellyll
- Gyda thwyll a chynnen,
- Eilliodd ym môn briallen
- A dileu fy nghenedl hen.
- ('Awdl i'r Hil Wen'; Eisteddfod Rhuthun 1976)