Alpau

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Mont Blanc, mynydd uchaf yr Alpau.

Mae'r Alpau (yn hanesyddol Mynydd Mynnau) yn gadwyn o fynyddoedd yng nghanol Ewrop. Y mynydd uchaf yw Mont Blanc, sy'n 4,810 medr o uchder. Mae'r mynyddoedd uchaf yn Ffrainc, Y Swistir, Awstria a'r Eidal, ond mae rhannau is o'r Alpau hefyd yn Monaco, Slofenia, Yr Almaen a Liechtenstein.

Nid oes sicrwydd o ble daw y gair "Alpau". Gall fod o iaith Geltaidd, neu o'r gair Lladin albos (gwyn). Mae rhai'n meddwl bod yr enw "alpau" a'r "Alban" yn dod o'r un gwreiddiau, unai o gwreiddyn indo-ewropeaidd, neu iaith henach, hyd yn oed. Mae'r Alpau Gorllewinol yn dechrau gerllaw Môr y Canoldir ac yn ymestyn hyd y Valais. Mae'r Alpau Canol yn ymestyn o'r Valais hyd Grisons, a'r Alpau Dwyrieiniol ym ymestyn ymlaen o Grisons i'r dwyrain a'r de.

Mae'r Alpau yn eithriadol o boblogaidd gyda dringwyr. Efallai mai'r sialens enwocaf yn yr Alpau yw dringo wyneb gogleddol yr Eiger yn y Swistir.

Mynyddoedd dros 4,000 medr[golygu | golygu cod y dudalen]

Map digidol o'r Alpau

Mae mynyddoedd uchaf yr Alpau yn cyrraedd dros 4,000 medr o uchder:

  • Yr Oberland:
  • Valais:
    • Lagginhorn 4,010
    • Weissmies 4,023
    • Lenzspitze 4,294
    • Nadelhorn 4,327
    • Hohberghorn 4,219
    • Durrenhorn 4,035
    • Dom 4,545
    • Taschhorn 4,490
    • Alphubel 4,206
    • Allalinhorn 4,027
    • Rimpfischhorn 4,199
    • Strahlhorn 4,190
    • Nordend 4,609
    • Dufourspitze 4,634
    • Grenzpifel 4,618
    • Zumsteinspitze 4,563
    • Signalkuppe 4,556
    • Parrotspitze 4,436
    • Ludwigshöhe 4,341
    • Schwarzhorn 4,322
    • Balmenhorn 4,167
    • Pirámide Vincent 4,215
    • Punta Giordani 4,046
    • Bischorn 4,153
    • Weisshorn 4,505
    • Zinalrothorn 4,221
    • Obergabelhorn 4,063
    • Dent Blanche 4,356
    • Liskamm 4,527
    • Naso 4,220
    • Felikhorn 4,174
    • Castor 4,228
    • Pollux 4,092
    • Breithorn 4,165
    • Roccia Nera 4,075
    • Matterhorn 4,478
    • Dent d’Herens 4,171
    • Combin de Tsesseta 4,141
    • Grand Combin 4,314
    • Combin de Valsorey 4,184
  • Ardal Mont Blanc
    • Aiguille Verte 4,122
    • Grande Rocheuse 4,102
    • Aiguille du Jardin 4,035
    • Les Droites 4,000
    • Les Grandes Jorasses 4,208
    • Pointe Whymper 4,184
    • Aiguille de Rochefort 4,001
    • Dome de Rochefort 4,015
    • Dent du Géant 4,013
    • Mont Blanco du Tacul 4,248
    • Mont Maudit 4,465
    • Mont Blanc 4,807
    • Aiguille de Bionnassay 4,052
    • Mont Brouillard 4,053
    • Aiguille Blanche 4,112
  • Los Ecrins
    • La Barra de los Ecrins 4,101
Globe stub.svg Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Europe map.png Eginyn erthygl sydd uchod am Ewrop. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.