Mae'r bwlch rhwng y tlawd a'r cyfoethog yn ein cymdeithas yn peryglu iechyd plant Cymru, meddai adroddiad gan Goleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant. Yn ôl yr adroddiad mae angen camau beiddgar i ddelio gyda gordewdra, iechyd meddwl ac ysmygu yng Nghymru. Daw'r data yn yr adroddiad o 25 o fesurau gwahanol oedd yn edrych ar ystod o ffactorau fel cyfraddau marwolaethau,