Cyhyr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Meinwe cyfangol sy'n bodoli mewn cyrff anifeiliaid yw cyhyr. Mae'n deillio o'r hanenen mesodermig o gelloedd germ embryonaidd. Mae celloedd cyhyrau yn cynnwys ffilamentau cyfangol sy'n symyd heibio iw gilydd gan newid maint y cell. Mae tri gwahanol fath o gyhyr, sef cyhyrau anrhesgog, cardiag, neu ysgerbydol. Eu swyddogaeth yw i greu grym ac achosi mudiant. Gall cyhyrau achosi ymsymudiad yr organeb ei hun neu symudiad yr organau mewnol. Mae cyfangu cyhyrau cardiag ac anrhesgog yn digwydd heb feddwl yn ymwybodol ac mae'n angenrheidiol ar gyfer goroesiad. Engreifftiau o hyn yw cyfangiad y galon a'r peristalsis sy'n gwthio bwyd trwy'r system dreulio. Defnyddir cyfangiad gwirfoddol o'r cyhyrau ysgerbydol i symud y corff, a gall hyn gael ei reoli'n fanwl. Mae engreifftiau yn cynnwys symudiad llygad, neu symudiadau crynswth megis cyhyrau cwadriceps y morddwyd. Mae dau fath llydan o ffibr cyhyr gwirfoddol: plwc araf a phlwc cyflym. Mae cyhyrau plwc araf yn gallu cyfangu am gyfnod hir o amser gyda ychydig iawn o rym tra bod cyhyrau plwc cyflym yn gallu cyfangu yn gyflym ac yn bwerus ond maent yn lludded yn sydyn.

Mathau o Gyhyr[golygu | golygu cod y dudalen]

Y tri math o gyhyrau.

Mae tri math o gyhyr:

Cyhyr Anrhesog[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae cyhyr anrhesgog, neu "cyhyr anwirfoddol" yn cael ei ganfod o fewn muriau organau a strwythrau megis yr oesoffagws, yr ystumog, coluddion, bronciolynnau, croth, wrethra, pledren, llestri gwaed, ac yn y croen hyd yn oed (lle mae'n rheoli codiad blew). Yn wahanol i cyhyr ysgerbydol, nid yw cyhyr anrhesgog odan reolaeth ymwybodol.

Cyhyr Cardiag[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae cyhyr cardiag hefyd yn "gyhyr anwirfoddol" ond mae'n debycach o ran strwythr i gyhyr ysgerbydol, a gaiff ei ganfod yn y galon yn unig.

Cyhyr Ysgerbydol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae cyhyr ysgerbydol neu "gyhyr gwirfoddol" yn cael ei angori i'r asgwrn gan dendonauac yn cael ei ddefnyddio i effeithio symudiad ysgerbydol megis ymsymudiad ac i gynnal ymddaliad. Er fod rheolaeth yr ymddaliad yn cael ei gynnal yn gyffredinol yn isymwybodol, mae'r cyhyrau sy'n gyfrifol am wneud hyn yn ymateb yn yr un modd a cyhyrau sydd ddim yn ymwneud â ymddaliad. Cyfansoddir oedolyn gwrywaidd o 40–50% o gyhyrau ysgerbydol, ac oedolyn benywaidd o tua 30–40% (fel canran o fás y corff).

Rhanir cyhyrau ysgerbydol yn bellach yn dri is-fath:

  • Math I, cyhyr araf sy'n ocsideiddio, plwc araf, neugyhyr "coch" sy'n dwys gyda chapilarïau ac yn gyfoethog mewn mitochondria a myoglobin, gan roi iddo'r lliw coch nodweddiadol. Gall gludo mwy o ocsigen a chynnal gweithgaredd aerobig.
  • Math II, cyhyr plwc cyflym, mae tri prif fath, mewn trefn cynyddol cyflymdercyfangu:[1]
    • Math IIa, sydd, yn debyd i gyhur araf, yn aerobig, sy'n gyfoethog mewn mitochondria a chapilarïau ac yn edrych yn goch.
    • Math IIx (adnabyddir hefyd fel math IId, neu yn anaml iawn IIB), sydd llai dwys mewn mitochondria a myoglobin. hwn yw'r cyhyr cyflymaf mewn dyn. Gall gyfangu yn gyflymach a gyda'r cyfanswm mwyaf o rym na cyhyr sy'n ocsideiddio, ond gall gynnal ebychiadau byr o weithgaredd anaerobig cyn y daw cyfangiad y cyhyr yn boenus (priodolir hyn yn anghywir yn aml i adeiladiad o asid lactic).[2]
    • Math IIb, sy'n anaerobig, glycolysisaidd, cyhyr "gwyn" sydd hyd yn oed llai dwys mewn mitochondria a myoglobin. Mewn anifeiliaid bychain megis cnofilod, hwn yw'r prif fath o gyhyr cyflym, sy'n egluro lliw golau eu cnawd.

Anatomeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae anatomeg cyhyrau yn cynnwys anatomeg crynswth, yn cynnwys holl gyhyrau organeb, ac, ar y llaw arall, microanatomeg, sy'n cynnwys strwythrau cyhyrau unigol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "MHC composition and enzyme-histochemical and physiological properties of a novel fast-twitch motor unit type". The American Journal of Physiology 261 (1 pt 1): C93–101. PMID 1858863. http://ajpcell.physiology.org/cgi/reprint/261/1/C93.
  2. V Smerdu (Rhagfyr 1994). Type IIx myosin heavy chain transcripts are expressed in type IIb fibers of human skeletal muscleURL Nodyn: Mae angen tanysgrifiad i ddarllen y testun cyfan; mae crynodeb ar gael am ddim


Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am cyhyr
yn Wiciadur.