Cytser

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Rhanbarth seryddol yn yr awyr o safbwynt rhywun yn edrych o'r ddaear yw cytser. Ceir 88 ohonyn nhw heddiw yn hemisfferau'r De a'r Gogledd ac maen' nhw'n dilyn ffiniau cydnabyddiedig. Mae cytser yn cynnwys nifer o sêr a/neu galaeth(au) a chyrff nefol eraill sy'n aml yn dwyn enw'r cytser, e.e. Messier 31, 'Y Galaeth Troellog yn Andromeda'.

Yn wreiddiol grwpiau o sêr heb ffiniau gosodedig oedd y cytser yn hemisffer y Gogledd, gyda phob un yn cynrhychioli duw, duwies neu anifail mytholegol, fel Andromeda, Draco, Perseus a Cassiopeia. Mae eu henwau'n Lladin ac yn deillio o chwedlau Groeg yr Henfyd. Mae enwau'r cytser yn hemissfer y De yn fwy diweddar.

Saturn template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am seryddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.