HIV
Firws yw Firws Diffyg Imiwnedd Dynol (Saesneg: Human Immune Deficiency Virus neu HIV). Mae'n fath o firws a elwir yn wrth-firws (retrovirus), sy'n heintio celloedd o'r system imiwnedd dynol, (gan fwyaf celloedd T CD4 positif a macroffagau, sy'n gydrannau allweddol o'r system imiwnedd gellog), ac fe ddinistrir neu amharir ar eu gweithrediad. Mae heintiad â HIV yn arwain at ddirywiad cynyddol o'r system imiwnedd gan ddilyn i 'ddiffygiant imiwnedd'.
Fe ystyrir y system imiwnedd yn ddiffygiol pan na ellir bellach gyflawni ei waith o ymladd afiechydon a heintiau. Mae pobl sydd â diffyg imiwnedd yn fwy tebygol o ddal heintiau sy'n anghyffredin ymysg pobl â system imiwnedd iach.
Gelwir heintiau sy'n gysylltiedig â diffyg imiwnedd difrifol yn 'heintiau manteisgar' am eu bod yn cymryd mantais o system imiwnedd wan.
Symptomau HIV[golygu | golygu cod y dudalen]
Nid yw'r rhan helaeth o bobl sydd a HIV yn ymwybodol eu bod wedi cael eu heintio oherwydd nad ydynt yn teimlo'n sâl yn syth ar ôl cael eu heintio â'r firws. Ar ôl dweud hyn, mae rhai pobl yn ystod seroaddasiad (seroconversion) yn datblygu beth a elwir yn Syndrom Gwrthfirws Dwys (Acute Retroviral Syndrome), sef symptomau tebyg i'r hyn a geir yn ystod twymyn y chwarennau, gyda gwres, brech ar y croen, poen cymalau a gordyfiant o'r chwarennau lymff. Cyfeirir seroaddasiad i ddatblygiad gwrthgorffynnau (antibodies) i HIV sydd fel arfer yn digwydd rhwng un a chwe wythnos ar ôl i heintiad â HIV ddigwydd. Hyd yn oed os nad yw HIV yn achosi symptomau cynnar, mae person â HIV yn heintus iawn yn ystod y cyfnod cynnar hwn a gall drosglwyddo'r firws i berson arall. Yr unig ffordd i benderfynu os yw HIV yn bresennol, yw profi am wrthgorffynnau HIV neu am HIV ei hun. Ar ôl i HIV achosi dirywiad cynyddol o'r system imiwnedd, gall cynnydd mewn rhagdueddiad i heintiau ddilyn i symptomau. Mae'r Gyfundrefn Iechyd y Byd (WHO), yn gosod HIV mewn gwahanol gamau yn seiliedig ar gyfuno rhai symptomau, heintiau a chanserau;
- Heintiad HIV Cynradd: Gall fod yn asymptomatig neu gall ei brofi fel Syndrom Gwrthfirws Dwys.
- Rhan Glinigol 1: Asymptomatig neu ordyfiant cyffredinol o'r chwarennau lymff.
- Rhan Glinigol 2: Cynnwys colli ychydig o bwysau, amlygiadau mwcocwtonaidd, a heintiau'r rhan uchaf o'r system anadlu.
- Rhan Glinigol 3: Cynnwys dolur rhydd cronig anesboniadwy, gwres uchel anesboniadwy parhaol, candidïasis y geg neu lewcoplacia, heintiau bacteriol difrifol, diciâu'r ysgyfaint, ac enyniad madreddol dwys yn y geg. Mae rhai pobl sydd yn Rhan Glinigol 3 gydag AIDS.
- Rhan Glinigol 4: Cynnwys 22 o heintiau manteisgar neu ganserau ynghlwm â HIV. Mae pob person yn Rhan Glinigol 4 gydag AIDS.
Gall y rhan helaeth o'r heintiau manteisgar hyn gael eu trin yn hawdd mewn pobl fel-arall iach.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- (Saesneg) Fast fact about HIV o wefan UNAIDS (Joint United Nations Programme On HIV/AIDS).