Seoul

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Seoul (Coreeg: 서울) yw prifddinas De Corea a'r ddinas fwyaf yn y wlad, gyda phoblogaeth o 10,356,000.

Saif y ddinas yn nalgych Afon Han yng ngogledd-orllewin y wlad, tua 50 km i'r de o'r ffîn a Gogledd Corea. Ceir y cofnod cyntaf amdani yn 18 CC, pan sefydlodd teyrnas Baekje ei phrifddinas Wiryeseong yn yr hyn sy'n awr yn dde-ddwyrain Seoul. Tyfodd dinas Seoul ei hun o ddinas Namgyeong.

Saif y ddinas yn Ardal Prifddinas Genedlaethol Seoul, sydd hefyd yn cynnwys porthladd Incheon a llawer o faestrefi, ac sydd a phoblogaeth o tua 23 miliwn. Mae bron hanner poblogaeth De Corea yn byw yn yr ardal yma.

Cynhaliwyd y Gemau Olympaidd yma yn 1988 a gêm derfynol Cwpan y Byd Pêl-droed 2002.

Awdurdodau Dosbarth[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhannir Seoul yn 25 awdurdod dosbarth, neu gu (구) yng Nghoreeg.[1]

Awdurdodau dosbarth Seoul

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Seoul Organizational Chart - Districts (Saesneg) Gwefan Llywodraeth Dinas Seoul; Adalwyd 6 Ebrill 2014
Unification flag of Korea.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Corea. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato