Laos

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
ສາທາລະນະລັດ ປະຊາທິປະໄຕ ປະຊາຊົນລາວ
Gweriniaeth Ddemocrataidd y Bobl Lao
Baner Laos Arfbais Laos
Baner Arfbais
Arwyddair: Heddwch, Annibyniaeth, Democratiaeth, Undod a Ffyniant
Anthem: Pheng Xat Lao
Lleoliad Laos
Prifddinas Vientiane
Dinas fwyaf Vientiane
Iaith / Ieithoedd swyddogol Lao
Llywodraeth Gweriniaeth Sosialaidd
- Arlywydd Choummaly Sayasone
- Prif Weinidog Thongsing Thammavong
Annibyniaeth
- Dyddiad
oddiwrth Ffrainc
19 Gorffennaf 1949
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
236,800 km² (83ain)
2
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2005
 - Cyfrifiad 1995
 - Dwysedd
 
5,924,000 (103ydd)
4,574,848
25/km² (177ain)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2005
$12.547 biliwn (129ain)
$2,124 (138ain)
Indecs Datblygiad Dynol (2005) 0.545 (133ain) – canolig
Arian cyfred Kip (LAK)
Cylchfa amser
 - Haf
(UTC+7)
(UTC+7)
Côd ISO y wlad .la
Côd ffôn +856

Gwladwriaeth gomiwnyddol weriniaethol sosialaidd yw Laos, neu Weriniaeth Ddemocrataidd y Bobl Lao. Y prifddinas yw Vientiane.

Gwlad nad yw'n ffinio â'r un môr ydyw er ei bod yn ffinio â Myanmar (Byrma) a Gweriniaeth Pobl Tsieina i'r gogledd-orllewin, Fietnam i'r dwyrain, Cambodia i'r de a Gwlad Thai i'r gorllewin.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Hanes Laos

Tardda hanes y wlad yn ôl i Deyrnas Lang Xang neu Dir y Miliwn o Eliffantod, a fodolodd o'r 14eg ganrif i'r 18fed ganrif. Wedi cyfnod yn perthyn i Wlad Thai ac wedyn i Ffrainc, enillodd ei annibyniaeth ym 1954. Daethpwyd â rhyfel cartref hir i ben pan ddaeth yr arweinwyr comiwnyddol, y Pathet Lao, i rym ym 1975 a chyhoeddi Gweriniaeth y Bobl.

Economi[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae masnach a menter breifat wedi cynnydu ers canol y 1980au, ond mae datblygu'n cael ei gwneud yn anodd gan y dirwedd fynyddig a choedwigol. Mae hyd at 80% o'r sawl sy'n gweithio yn y wlad yn gweithio yn y sector amaethyddiaeth gynhaliol sy'n cyfrif am 57% o'r GDP; ceir newyn ar raddfa eang oherwydd methiannau niferus comiwnyddiaeth a'r economi yno. Y kip yw'r arian cyfredol.

Iaith a diwylliant[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae nifer o grwpiau ethnig gwahanol yn y wlad a dim ond 60% sy'n perthyn i'r grŵp ethnig mwyaf sef y Lao. Lao yw'r iaith swyddogol ond ceir nifer o ieithoedd llai yn ogystal. Mae rhan fwyaf y boblogaeth yn Fwdhiaid.

Rhanbarthau gweinyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Taleithiau Laos

Rhennir Laos yn 16 talaith (Kang), 1 ardal ddinesig (Kumpang nakon), ac un Ardal Arbennig (ketpisade):

  1. Attapu
  2. Bokeo
  3. Bolikhamxai
  4. Champasak
  5. Houaphan
  6. Khammouan
  7. Loung Namtha
  8. Louangphabang
  9. Oudomxai
  10. Phongsali
  11. Salavan
  12. Savannakhet
  13. Vientiane, Ardal Ddinesig
  14. Vientiane
  15. Xaignabouli
  16. Xaisomboun, Ardal Arbennig
  17. Xekong
  18. Xiangkhoang

Is-rennir Laos yn bellach yn muang yn ogystal.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]