Japan
|
|||||
Arwyddair: Dim | |||||
Anthem: Kimi ga Yo | |||||
Prifddinas | Tokyo | ||||
Dinas fwyaf | Tokyo | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Japaneg 1 | ||||
Llywodraeth | Brenhiniaeth gyfansoddiadol | ||||
• Ymerawdr • Prif Weinidog |
Akihito Shinzō Abe |
||||
Ffurfiant |
11 Chwefror 660 B.C. | ||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
377,835 km² (63fed) 0.8 |
||||
Poblogaeth - Amcangyfrif 2012 - Cyfrifiad [[|]] - Dwysedd |
128,085,000 (10fed) 128,056,026[1] 337.1/km² (36ed) |
||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2005 $4.835 triliwn[2] (3fed) $38,142[2] (25ed) |
||||
Indecs Datblygiad Dynol (2008) | 0.943 (11fed) – uchel | ||||
Arian cyfred | Yen Japaneaidd (¥) (JPY ) |
||||
Cylchfa amser - Haf |
JST (UTC+9) | ||||
Côd ISO y wlad | .jp | ||||
Côd ffôn | +81 |
Mae Japan (Japaneg: 日本 ynganiad Nihon; Nippon neu Nihon-koku) (hefyd yn Gymraeg Siapan) yn wlad sy'n cynnwys 6,852 o ynysoedd yn nwyrain Asia; y 4 mwyaf ydy Honshu, Hokkaido, Kyushu, a Shikoku. Fe'i hamgylchynnir gan y Cefnfor Tawel (Taiheiyō), Setonaikai a Môr Japan (Nihonkai). Gorwedda i'r de-ddwyrain o Rwsia, i'r dwyrain o Tseina a Chorea ac i'r gogledd-ddwyrain o ynys Taiwan.
Cynnwys
Geirdarddiad[golygu | golygu cod y dudalen]
Ecsonym yw'r gair Japan a ddatblygodd trwy lwybrau masnach cynnar, yn debygol iawn o ynganiad Tseiniaidd Wu neu Mandarin cynnar o'r gair gwreiddiol Japaneg. Yr enw Japaneg ar y wlad yw Nihon, neu yn llai aml defnyddir yr hen enw Nippon. Mae gan y ddwy enw yr un ystyr sef "tarddiad yr haul", a chaiff y ddwy eu hysgrifennu gan ddefnyddio'r ddau kanji 日本. Ystyr y kanji cyntaf 日 (Ni-) yw dydd neu haul; ystyr yr ail 本 (-hon) yw gwraidd, tarddiad neu lyfr.
Dinasoedd[golygu | golygu cod y dudalen]
Prifddinas Siapan yw Tokyo (Tōkyō), canolbwynt gwleidyddol ac economaidd y wlad. Ger Tokyo, mae dinas fawr Yokohama ynghyd a rhannau helaeth o daleithiau cyfagos yn ffurfio i greu Ardal Tokyo Fwyaf, un o ardaloedd dinesig mwyaf poblog y byd gyda phoblogaeth o tua 36 miliwn yn 2010 [3]. Dinasoedd mawr eraill Japan yw Osaka, Nagoya, Sapporo, Kobe, Kyoto, Fukuoka, Kawasaki a Saitama.
Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae bron i 7,000 o ynysoedd yn Japan, ond yr ynys fwyaf o ran maint a phoblogaeth yw Honshū sydd yn ymestyn ar hyd ganolbarth y wlad. Mae tair ynys arall nodweddol o ran maint a phoblogaeth - Hokkaidō yn y gogledd, Kyūshū yn y de-orllewin a Shikoku yn y de. Mae Japan yn wlad fynyddig ac ychydig o wastadeddau sydd i'w cael sydd yn addas i fyw, y rheswm am y dwysedd poblogaeth uchel. Y copa uchaf yw Mynydd Fuji (富士山 Fuji-san) (3776m).
Gan fod Japan yn rhan o'r Cylch Tân (y gadwyn o losgfynyddoedd o gwmpas y Cefnfor Tawel) ceir llawer o losgfynyddoedd, daeargrynfeydd a ffynhonnau poeth yn y wlad.
Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae Japan yn deyrnas seneddol. Ceir Tenno (天皇Ymerawdwr) a senedd, system tebyg iawn i'r hyn sydd ym Mhrydain.
Shinzo Abe o'r Blaid Ddemocrataidd Ryddfrydol (neu'r LDP) ydy Prif Weinidog Japan ers Rhagfyr 2012.
Celf[golygu | golygu cod y dudalen]
Y celfyddydau gweledol[golygu | golygu cod y dudalen]
Tarddodd anime yn Japan, math o animeiddio gyda chryn ddylanwad manga arno. Ceir genre unigryw a marchnad enfawr iddo ar ffurf gemau fideo hefyd, sydd wedi bod o gwmpas ers y 1980au.[4]
Cerddoriaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae cerddoriaeth Japan yn amrywiol iawn, ac yn adlewyrchu'r hen a'r newydd; ceir llawer o hen offerynau fel y koto syn mynd nôl i'r 9fed a'r 10fed ganrif. Mae canu gwerin yn mynd nol i'r 17fed canrif. Dau o'u cyfansoddwr modern gora nhw yw Toru Takemitsu a Rentarō Taki. Ers yr Ail Ryfel Byd mae cerddoriaeth America ac Ewrop wedi dylanwadu'n fawr ac mae carioci'n bwysig iawn ganddynt.
Economi[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn 2009 Japan oedd ail economi mwyaf y byd ar ôl yr Unol Daleithiau. Mae bancio, yswiriant, eiddo diriaethol, masnach, trafnidiaeth, telathrebu ac adeiladwaith i gyd yn ddiwydiannau mawr.[5] Mae gan Japan gynhwysedd sylweddol i gynhyrchu ar raddfa fawr, ac mae'n gartref i nifer o ddatblygiadau a newyddbethau technogol yn y meysydd moduro, electroneg, offer peiriannau, haearn a metelau anfferrus, llongau, sylweddau cemegol, tecstiliau a bwyd wedi eu prosesu.
Mae'r sector gwasanaethau yn cyfri fel dros dri chwarter o'i CMC, llawer mwy nac amaethyddiaeth a gwneuthuriaeth. Gan fod prinder o adnoddau yn y wlad, mae'n rhaid mewnforio deunyddiau crai a mwynau fel olew a haearn. Mae'r wlad yn allforio cynhyrchion technologol, er enghraifft, ceir neu gynhyrchion trydanol a chemegol.
Poblogaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae mwyafrif y bobl yn Japaneaid, a'r iaith swyddogol yw Japaneg.
Yng ngogledd y wlad y mae grŵp o bobl a elwir yr Ainu yn byw. Pobl wreiddiol ardal gogledd-ddwyrain Siapan. Mae mwyafrif y tramorwyr sy'n byw yn Siapan yn dod o Frasil a Korea.
Rhanbarthau Gweinyddol[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae 47 talaith (Saesneg: Prefecture) yn ffurffio Japan, pob un â llywodraethwr etholedig ynghyd â deddfwrfa a biwrocratiaeth weinyddol. Mae taleithiau yn cyfuno i greu rhanbarth ac yn is-rannu i greu dinasoedd, trefi a phentrefi.
1. Hokkaidō |
2. Aomori |
8. Ibaraki |
15. Niigata |
24. Mie |
31. Tottori |
|
40. Fukuoka |
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
- Aizuri-e: printiadau bloc pren Siapaneaidd
- Anime
- Gwisg ysgol Japan
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Population Count based on the 2010 Census Released". Statistics Bureau of Japan. http://www.stat.go.jp/english/data/kokusei/pdf/20111026.pdf. Adalwyd October 26, 2011.
- ↑ 2.0 2.1 "Japan". International Monetary Fund. http://www.imf.org/external/pubs/ft/weo/2014/01/weodata/weorept.aspx?pr.x=54&pr.y=12&sy=2014&ey=2014&scsm=1&ssd=1&sort=country&ds=.&br=1&c=158&s=NGDPD%2CNGDPDPC%2CPPPGDP%2CPPPPC&grp=0&a=. Adalwyd 28 June 2014.
- ↑ http://esa.un.org/unup/p2k0data.asp
- ↑ Herman, Leonard; Horwitz, Jer; Kent, Steve; Miller, Skyler (2002). "The History of Video Games". GameSpot. Archifwyd from y gwreiddiol on 3 Chwefror 2014. http://94.23.146.173/ficheros/c46b765443281b81f03f065d35b83111.pdf. Adalwyd 1 Ebrill 2007.
- ↑ er 6 Manufacturing and Construction, Statistical Handbook of Japan, Ministry of Internal Affairs and Communications
|