Parc Cenedlaethol Eryri
- Erthygl am y parc cenedlaethol yw hon. Am yr ardal draddodiadol gweler Eryri.
Sefydlwyd Parc Cenedlaethol Eryri ym 1951 fel y trydydd parc cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr. Mae'n un o dri pharc cenedlaethol yng Nghymru (gweler hefyd Bannau Brycheiniog a Phenfro). Mae ffiniau'r parc yn cynnwys tua 214,159 hectar (840 milltir sgwâr), ardal llawer ehangach na'r ardal a adwaenid fel Eryri yn hanesyddol.
Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn ymestyn dros 2,171 cilometr sgwâr dros ardaloedd Gwynedd a Chonwy, gydag oddeutu 25,000 o drigolion yn byw y tu mewn i’w ffiniau. Yng nghyfrifiad 2011, roedd 59% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg. Dyma'r trydydd parc cenedlaethol mwyaf poblogaidd drwy Gymru a Lloegr.
Mae dros 26,000 o bobl yn byw yn y parc, ac mae miliynau o ymwelwyr yn dod pob blwyddyn. Hwn ydy'r trydydd parc cenedlaethol mwyaf poblogaidd drwy Gymru a Lloegr.
Rheolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae'r parc o dan rheolaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, sy'n cael ei redeg gan bwyllgor sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r awdurdodau lleol, sef Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Conwy, a Llywodraeth Cymru. Mae'r tir cyhoeddus a'r tir preifat ill dau o dan reolaeth yr un awdurdod cynllunio. Rhennir perchnogaeth tir yn y parc fel a ganlyn:
Math perchenogaeth | siâr (%) |
---|---|
Preifat | 69.9 |
Y Comisiwn Coedwigaeth | 15.8 |
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol | 8.9 |
Cyngor Cefn Gwlad Cymru | 1.7 |
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri | 1.2 |
Cwmniau Dŵr | 0.9 |
Eraill | 1.6 |
Llywodraethir Awdurdod y Parc gan 18 aelod, ac mae 9 o’r aelodau'n Gynghorwyr wedi’u penodi gan Gyngor Sir Gwynedd, 3 wedi’u penodi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a 6 aelod wedi’u henwebu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.[1] Yn 2014 roedd 155 allan o 144 o'i staff yn medru siarad Cymraeg: 93%.
Yn y 1970au cynnar, yn dilyn ad-drefniant Llywodraeth Leol, daeth Parc Cenedlaethol Eryri yn adran o Gyngor Sir Gwynedd. Ym 1974 daeth cyfrifoldeb am gynllunio o dan adain y Parc Cenedlaethol. Prynodd y Parc Cenedlaethol dir mewn sawl safle poblogaidd er mwyn cynnig gwasanaethau i ymwelwyr gan gynnwys: Llyn Cwellyn, nau Mymbyr, Betws y Coed, Beddgelert a Nant Peris ac agorwyd Plas Tan y Bwlch fel canolfan astudio yn 1975. Lansiwyd cynllun bws Sherpa’r Wyddfa i ddatrys problemau parcio mewn safleoedd poblogaidd drwy gludo cerddwyr.
Gyda chyllideb o oddeutu 6 miliwn, daw 75% gan Lywodraeth Cymru a'r gweddill trwy ardollau siroedd perthnasol.[2]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Dogfen iaith y Parc; adalwyd 2 Mehefin 2014
- ↑ Gwefan y Parc; adalwyd 2 Mehefin 2014.
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- W. M. Condry, The Snowdonia National Park (Collins, Llundain, 1966). Cyfres New Naturalist.
Gweler hefyd yr adran 'Darllen pellach' yn yr erthygl Eryri.