Calendr Iwliaidd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Delwedd esboniadol: y newid o'r Calendr Iwliaidd i Galendr Gregori.

Addasiad o galendr y Rhufeiniaid yn ystod teyrnasiad Iwl Cesar ydy'r Calendr Iwliaidd a wnaed yn 46 CC ac a ddaeth i rym y flwyddyn ddilynol. Fe'i derbyniwyd gan y rhan fwyaf o wledydd Ewrop a thiriogaethau a wladychwyd yn ddiweddarach gan Ewropeaid e.e. rhannau o gyfandir America, hyd nes iddo gael ei addasu ymhellach a'i alw'n Galendr Gregori yn 1582.

Ceir ynddo 365 diwrnod wedi'u clystyru'n 12 mis, fel y nodir yn y "Tabl Misoedd". Ychwanegir diwrnod naid ym mis Chwefror bob pedair mlynedd. Mae'r flwyddyn Iwliaidd, felly, yn 365.25 diwrnod o ran hyd. Roedd yn fwriad i'r calendr hwn gyfateb fwy neu lai gyda blwyddyn yr haul. Gwyddai seryddwyr Groegaidd ers cyfnod Hipparchus fod y flwyddyn trofanol ychydig funudau'n llai na 365.25 diwrnod, ond nid oedd y calendr yn ateb y broblem yma. O ganlyniad, roedd tridiau'n ychwanegol - bob pedwar canrif. Cafodd hyn ei gywiro yn y diwygiad Gregori yn 1582, sy'n cyflwyno'r dyddiau naid mewn dull gwahanol. O ganlyniad i hyn mae'r Calendr Iwlaidd 13 diwrnod y tu ôl i'r Calendr Gregori h.y. y 1af o Ionawr ar y Calendr Iwliaidd ydy'r 14eg ar y Calendr Gregori.

Mae'r rhan fwyaf o ganghennau'r Eglwys Uniongred Ddwyreiniol yn parhau i ddefnyddio'r Calendr Iwliaidd i nodi dyddiadau gwyliau crefyddol gan gynnwys y Pasg (Pascha). Mae rhai wedi creu fersiwn a elwir yn Galendr Iwliaidd Diwygiedig.[1] Defnyddir yr hen Galendr Iwliaidd hefyd gan Ferberiaid Gogledd Affrica a Mynydd Athos yng Ngwlad Groeg. Diwygiad arall ohono yw'r "Calendr Alecsandria" a ddefnyddir yn Ethiopia.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Towards a Common Date of Easter. (5–10 Mawrth). World Council of Churches/Middle East Council of Churches Consultation, Aleppo, Syria.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]