Mecsico

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Estados Unidos Mexicanos
Taleithiau Unedig Mecsico
Baner Mecsico Arfbais Mecsico
Baner Arfbais
Arwyddair: Dim
Anthem: Himno Nacional Mexicano
Lleoliad Mecsico
Prifddinas Dinas Mecsico
Dinas fwyaf Dinas Mecsico
Iaith / Ieithoedd swyddogol Sbaeneg (de facto)
Llywodraeth Gweriniaeth
 • Arlywydd Enrique Peña Nieto
Annibyniaeth
 • Datganiad
 • Cydnabwyd
oddiwrth Sbaen
16 Medi 1810
27 Medi 1821
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
1,972,550 km² (15fed)
2.5
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2006
 - Cyfrifiad 2000
 - Dwysedd
 
108,700,000 (11fed)
100,349,766
55/km² (142fed)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2005
$1191.674 biliwn (13fed)
$10,186 (64fed)
Indecs Datblygiad Dynol (2004) 0.821 (53fed) – uchel
Arian cyfred Peso (MXN)
Cylchfa amser
 - Haf
(UTC-5 i -8)
Côd ISO y wlad .mx
Côd ffôn +52

Gwlad yng Ngogledd America yw Taleithiau Unedig Mecsico neu Mecsico (Sbaeneg: Mecsico). Y gwledydd cyfagos yw'r Unol Daleithiau, Gwatemala a Belîs. Mae gan y wlad arfordir ar y Cefnfor Tawel yn y gorllewin; yn y dwyrain mae ganddi arfordir ar Gwlff Mecsico a Môr y Caribî. Mecsico yw'r wlad fwyaf gogleddol yn America Ladin. Y brifddinas yw Dinas Mecsico (Sbaeneg: Ciudad de Mecsico), sy'n un o ddinasoedd mwyaf poblog y byd.

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Daearyddiaeth Mecsico

Mae Mecsico yn wlad fawr sy'n gorwedd rhwng y Cefnfor Tawel i'r gorllewin a Môr y Caribi i'r dwyrain. Yn y gogledd mae'n ffinio â thaleithiau Califfornia, Arizona, New Mexico a Texas yn ne'r Unol Daleithiau. Fel yn achos y taleithiau hynny, mae gogledd Mecsico yn wlad o fynyddoedd uchel (sierras), sych ac arfordiroedd Canoldirol. Mae'r mynyddoedd sy'n rhedeg trwy ganol y wlad yn ymffurfio'n ddwy gadwyn, sef y Sierra Madre Gorllewinol a'r Sierra Madre Dwyreiniol, gyda Llwyfandir Mecsico yn y canol. Yn y gorllewin ceir Gwlff Califfornia gyda'i fraich allanol Baja California. Yn y dwyrain ceir gwastadeddau sylweddol ar hyd yr arfordir ar Gwlff Mecsico. Yn y de eithaf mae'r tir yn culhau i ffurfio gwddw gyda bryniau a llosgfynyddoedd i'r gorllewin a gorynys Yucatan i'r dwyrain ar y ffin â Belîs a Gwatemala. Mae'r brifddinas, Dinas Mecsico, yn gorwedd ar ymyl ddeheuol Llwyfandir Mecsico.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Hanes Mecsico

Roedd Mecsico yn gartref i wareiddiad y Maya rhwng yr 2il ganrif a'r 13eg ganrif. Yn y cyfnod rhwng yr 8fed ganrif a'r 12fed ganrif flodeuodd diwylliant y Toltec. Olynwyd y gwareiddiadau cynnar hyn gan wareiddiad yr Azteciaid gyda'u prifddinas yn Tenochtitlán (safle Dinas Mecsico heddiw).

Yn 1521 goresgynwyd yr Azteciaid gan Hernán Cortés a'r Sbaenwyr a daeth Mecsico yn rhan o Sbaen Newydd. Dechreuodd yr ymgyrch am annibyniaeth ar Sbaen yn 1810. Erbyn 1821 roedd Mecsico yn wlad annibynnol. Roedd yn diriogaeth fwy sylweddol na'r wlad bresennol , yn cynnwys rhannau o dde'r Unol Daleithiau fel Texas a Califfornia. Arweinydd pwysicaf y wlad oedd Santa Anna. Collwyd y rhan fwyaf o'r tir hwnnw i'r Unol Daleithiau newydd, yn arbennig ar ôl Rhyfel Mecsico (1846-1848).

Rheolwyd y wlad gan Maximilian, Archddug Awstria am gyfnod byr (1864-1867), ond cafodd ei ladd yn 1867 a dilynodd cyfnod ansefydlog a arweiniodd at Chwyldro Mecsico pan ddiorseddwyd Porfirio Diaz gan Francisco Madera. Dyma gyfnod Zapata a Pancho Villa. Yn 1917 datganwyd gweriniaeth Mecsico.

Economi[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Economi Mecsico

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am Mecsico
yn Wiciadur.

Wiki letter w.svg   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Flag of Mexico.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Fecsico. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato