Ciwba

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
República de Ciwba
Gweriniaeth Ciwba
Baner Ciwba Arfbais Ciwba
Baner Arfbais
Arwyddair: Patria o Muerte
Anthem: La Bayamesa
Lleoliad Ciwba
Prifddinas La Habana
Dinas fwyaf La Habana
Iaith / Ieithoedd swyddogol Sbaeneg
Llywodraeth Gweriniaeth Sosialaidd
 • Arlywydd Cyngor Gwladwriaeth Raúl Castro
Annibyniaeth
 • Cydnabuwyd
oddiwrth Sbaen
10 Hydref 1868
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
110,861 km² (105fed)
-
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2006
 - Cyfrifiad 2002
 - Dwysedd
 
11,382,820 (73fed)
11,177,743
102/km² (97fed)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2005
$39.17 biliwn (Dim Rhenc)
$3,500 (Dim Rhenc)
Indecs Datblygiad Dynol (2004) 0.826 (50fed) – uchel
Arian cyfred Peso
Peso trosadwy (CUC)
Cylchfa amser
 - Haf
EST (UTC-5)
(UTC-4)
Côd ISO y wlad .cu
Côd ffôn +53

Gwlad yn Ynysoedd y Caribî yw Gweriniaeth Ciwba (Sbaeneg: República de Cuba). Lleolir Ciwba i'r de o'r Unol Daleithiau, i'r gorllewin o Haiti a'r Ynysoedd Turks a Caicos, i'r gogledd o Jamaica a'r Ynysoedd Caiman ac i'r dwyrain o Fexico. Ciwba yw'r ynys fwyaf ym Môr y Caribî. Y brifddinas yw La Habana (Havana).

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir pedwar cyfnod yn hanes Ciwba. Y cyntaf yw'r cyn-coloniaidd tra oedd yr ynys yn perthyn i bobl Amerindiaid sef y Taíno a'r Ciboney. Yr ail gyfnod yw'r Giwba drefedigaethol, a ddechreuwyd ym 1492, efo dyfodiad Christopher Columbus arosodd yn coloni Sbaen, tan y rhyfel efo'r UDA y Spanish-American War ym 1898. Y trydydd cyfnod yw Gweriniaeth Ciwba, daeth annibynniaeth o ryw fath yn 1902, ond roedd milwyr UDA yn bresennol o leiaf unwaith bob degawd. Y pedwerydd cynfod yw ers Chwydlro Ciwba ym 1959 a arweinwyd gan Fidel Castro pan ddaeth Ciwba yn Gweriniaeth Sosialaidd.

Ciwba gyn-drefedigaethol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ciwba drefedigaethol[golygu | golygu cod y dudalen]

1400au[golygu | golygu cod y dudalen]

  • 1492 Hydref 28 Christopher Columbus yn glanio ar ddwyrain Ciwba.
  • 1494 Columbus yn hwylio heibio'r ynys.

1500au[golygu | golygu cod y dudalen]

  • 1508 Sebastián de Ocampo yn hwylio rownd yr ynys i gyd. Felly yn dangos ei bod hi'n ynys.
  • 1510 Concwest o Giwba o ynys Hispaniola. (Haiti a'r Weriniaeth Dominican).
  • 1511 Diego Velázquez de Cuéllar yn sefydlu dref Baracoa.
  • 1512 Llosgi Hatuey arweinydd Indiaid (o Haiti yn wreiddiol).
  • 1514 Sefydlu Havana.
  • 1523 Ymerawdwr Charles V yn cynnig 4,000 darn aur i hybu cynyrchu cotwm.
  • 1527 Caethion Du cyntaf yn cyrraedd.
  • 1532 Gwrthryfel y Caethion Du cyntaf.
  • 1537 Ffrancwyr yn cipio Havana.
  • 1538 Ail wrthryfel y Caethion Du.
  • 1555 Ffrancwyr yn cipio a dinistrio Havana.
  • 1586 Y môrleidr Francis Drake yn glanio ger Cabo San Antonio
  • 1597 Cwblhau Castillo del Morro ger harbwr Havana.

1600au[golygu | golygu cod y dudalen]

Twf araf mewn masnach, mae Hispaniolo yn dominyddu'r masnach Caribi. Twf dylanwad Lloegr, Ffrainc a'r Iseldiroedd yn y Caribi. Aur yn cael ei allforio i Sbaen o Dde America i gyd i fynd drwy Hafana - mewn Fflotila enfawr rhag y morleidr.

  • 1603 Cyfreithiau llym yn erbyn masnach tobaco â phobl tramor (Ffrainc a Lloegr).
  • 1607 Havana yn brifddinas Ciwba.
  • 1628 Iseldirwyr dan Piet Heyn yn dwyn tresor aur y "Morlu Sbaeneg" yn harbwr Havana
  • 1649 Pla yn lladd traean y boblogaeth.
  • 1662 Morlu Saesneg dan Christopher Myngs yn cipio Santiago de Ciwba a mynnu hawliau masnachol efo Jamaica
  • 1670 Sbaen yn ildio Jamaica i Loegr yn barhaol.

1700au[golygu | golygu cod y dudalen]

Prydain yn ymyrru ar yr ynys ac yn dod a Florida i'r ymerodraeth Prydeinig. Dylanwad y chwyldro Americanaidd ar yr ynys.

1800au[golygu | golygu cod y dudalen]

UDA yn ysgogi annibyniaeth a gwrthryfel yn yr ynys, Sbaen yn ildio Ciwba i'r UDA.

  • 1812 Juan Ruíz de Apodaca yn llwyodraethu Ciwba 1812-16.
  • 1843 Leopoldo O'Donnell, Dug Tetuan yn llwyodraethu Ciwba 1843-48.
  • 1844 Gwrthryfel y Caethion Du Blwyddyn y llach yn dod i ben wedi gorthrymu caled ar y boblogaeth ddu
  • 1853 Geni ar Ionawr 28 José Julián Martí Pérez yn Havana.
  • 1868-78 Rhyfel annibyniaeth cyntaf Ciwba - yn para degawd cyfan
  • 1879 Awst, Ail rhyfel annibyniaeth sy'n dod i ben erbyn 1880.
  • 1886 Diwedd caethwasiaeth yng Nghiwba
  • 1895 23 Chwefror Gwrthryfel gwyn Ciwba dan José Martí a Máximo Gómez y Báez.
  • 1896 Gwrthryfel yn llwyddo ond Sbaen yn elwa o Winston Churchill - yn ymladd ar eii hochr hi.
  • 1898 Mehefin 6 1898 cipio Bai Guantánamo gan milwyr Americanaidd a Chiwbaidd fel rhan o'r Rhyfel Sbaen-America.
  • 1898 Rhagfyr 10, Cytundeb Paris yn dod a'r Rhyfel Sbaen-America i ben gyda 'annibyniaeth' i Giwba.
  • 1899 Ionawr 1, Sbaen yn idlio pwer i'r 'North American Military Governor', Cadfridog John Ruller Brooke.
  • 1899 Rhagfyr 23 Leonard Wood yn Llywodraethwr dros dro'r UDA i Giwba

Gweriniaeth Ciwba[golygu | golygu cod y dudalen]

1900au

Chwyldro a'r Giwba Sosialaidd[golygu | golygu cod y dudalen]

1950au

  • 1952 Mawrth Cadfridog Batista, yn cymryd grym unwaith eto.
  • 1953 July 26 160 milwr dan Fidel Castro yn ymladd yn erbyn baracs Moncada yn Santiago de Cuba. Fidel yn y carchar.
  • 1953 Hydref 16 Fidel Castro yn areithio "hanes bydd fy nghyfiawnhad"
  • 1954 Medi Che Guevara yn cyrraedd o Ddinas Mecsico.
  • 1954 Tachwedd Batista yn cael ei 'ethol' mewn etholliad un dyn.
  • 1955 Mai Rhyddhau Fidel dan amnest gan Batista.
  • 1956 Tachwedd 25 Fidel Castro, Raúl Castro, Che Guevara a Camilo Cienfuegos, a 80 milwr yn dychwelyd o Mecsico i Giwba ar y cwch Granma.
  • 1956 Rhagfyr 2 Granma yn glanio Oriente Province.
  • 1957 Mawrth 13, Myfyrwyr yn ymosod ar Balas y Llywydd Havana.
  • 1957 Mai 28 1957, Castro yn cymryd El Uvero.
  • 1957 Medi 5 Gwrthryfel gan y llynges yn Cienfuegos ond Batista yn dal ei rym.

1958

  • 1958 Chwefror Raúl Castro yn dechrau rhyfel gwrila yn y Sierra de Cristal.
  • 1958 Mawrth 13 UDA yn atal cyflenwi milwyr Batista.
  • 1958 Ebrill 9 Streic Cyffredinol
  • 1958 Mai Batista syn anfon 10,000 i'r Sierra Maestra rhag Castro 300, Castro yn colli.
  • 1958 Tachwedd Castro yn ennill dref Guisa ac wedyn talaith Oriente.
  • 1958 Rhagfyr Guevara, William Alexander Morgan yn ymosod ar Santa Clara ac ennill
  • 1958 Rhagfyr 31 Camilo Cienfuegos yn ennill Yaguajay, aHuber Matos yn cymryd Santiago dros Castro

1959

1960au

  • 1960 Mawrth 17, Dwight Eisenhower yn gofyn i'r CIA hyfforddu milwyr Ciwba ar gyfer ymosod ar Giwba.
  • 1960 Gorffennaf 5 Gwladoli holl eiddio UDA.
  • 1960 Hydref 19, Embargo UDA rhag Ciwba yn dechrau.
  • 1960 Rhagfyr 26, Operation Peter Pan yn cymryd 14,000 o blant o Giwba i'r UDA.
  • 1961 Ionawr 1, Y cynllun llythrenedd.
  • 1961 Ebrill 15, glaniad Bay of Pigs yn methiant i'r gwrth-gomiwnyddwyr
  • 1961 Embargo llawn UDA ar Giwba.
  • 1962 Awst 17, Central Intelligence Agency yn awgrymu bod yr Undeb Sofietaidd yn adeiladu bas taflegrau yng Nghiwba.
  • 1962 August 29, John F. Kennedy yn dweud: "I'm not for invading Cuba at this time... an action like that... could lead to very serious consequences for many people."
Central Havana
  • 1962 Hydref 16, McGeorge Bundy yn dweud wrth President Kennedy bod "Soviet medium-range ballistic missiles are in Ciwba".
  • 1962 Hydref 23, Blocâd môr ac awyr a bygythiad ymosod niwclear gan UDA, tasai taflegrau yn dod o Giwba.
  • 1962 October 28, Khrushchev yn cytuno gwaredu'r taflegrau o Giwba a'r UDA yn cytuno nid i oresgyn Ciwba.
  • 1962 Tachwedd 21 diwedd y blocâd.
  • 1967 Hydref 9 dienyddio Che Guevara yn La Higuera, Bolifia gan elynion y Chwydro.
  • 1968 Mawrth cau bob bar yn Nghiwba.

1970au

  • 1972 Ciwba yn aelod o COMECO.
  • 1975 Yr Undeb Sofietaidd yn anfon milwyr Ciwba i Angola.
  • 1976 Rhagfyr 2 Fidel Castro yn Llywydd Ciwba.
  • 1977 May 50 milwyr cyntaf Ciwba yn cyrraedd Ethiopia, bydd 12,00 yno yn y diwedd.

1980au

ffoaduriaid o Giwba Mariel Boat Lift 1980
  • 1980 Ebrill Mariel Boat Lift. Llywodreth Ciwba yn caniatau pobl i adael - 125,000 yn ffoi i'r UDA
  • 1983 Hydref 25 UDA yn oresgyn Grenada a saethu yn erbyn milwyr o Giwba.
  • 1984 Ciwba yn lleihau milwyr yn Ethiopia i 3,000 o 12,000.
  • 1989 Medi 17 Milwyr Ciwba yn gadael Ethiopia.

1990au

  • 1990 Mawrth 23, UDA yn caniatau sianel teledu gwrth-gomiwnyddol TV Marti
  • 1991 Mai Milwyr Ciwba yn gadael Angola.
  • 1991 diwedd yr Undeb Sofietaidd
  • 1992 Gorffenaf - etholiadau uniongyrchol - dan ddylanwad Ewrop.
  • 1993 Tachwedd 6, Caniatau buddsoddi preifat.
  • 1996 Mawrth 12. Yr Helms-Burton Act, yn ymestyn embargo UDA i gwmniau tu allan i'r UDA e.e. rhai yn Ewrop.
  • 1998 Ionawr 21, Pab John Paul II yn ymweld â Chiwba.
  • 1999 Tachwedd 5, bachgen 6 oed Elián González yn dod i'r lan ar y Straits of Florida ac yn dod yn ganolbwynt y rhyfel propaganda.

2000au[golygu | golygu cod y dudalen]

Fidel Castro yn Brazil, 2003.
  • 2000 Rhagfyr 14 Vladimir Putin yn ymweld â Chiwba a llofnodi cytundebau newydd.
  • 2002 Ionawr, Bas olaf Rwsia yng Nghiwba, yn Lourdes, yn cau.
  • 2002 Mai 12, Cyn Llywydd UDA Jimmy Carter yn ymweld â Chiwba.
  • 2003 Ebrill Arestio 78 ysgrifennwyr a gwleidyddion yng Nghiwba
  • 2004 Tachwedd 8, Banio'r US dollar, a threth 10% ar gyfnewid dollar-peso .
  • 2005 Gorffenaf 7 Corwynt Dennis yn lladd 16.
  • 2006 Gorffenaf 31, Raúl Castro yn Llywydd dros dro wedi salwch Fidel.
  • 2008 Chwefror 19 Fidel Castro yn cadarnhau ei ymddeoliad.

Cymru a Chiwba[golygu | golygu cod y dudalen]

Cymdeithas Cymru Ciwba[golygu | golygu cod y dudalen]

Grwp sy'n cefnogi pobl Ciwba ac ymgyrchu rhag ddylanwad UDA. Maen nhw'n rhan o ymgyrch byd eang i gefnogi Ciwba yn ymarferol. Maen nhw'n bresennol bob blwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn weithgar iawn drwy Gymru. http://www.cymrucuba.co.uk/index

Harri Morgan a Chiwba[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd y llyngesydd Syr Henry Morgan, sef Harri Morgan yn y Gymraeg (tua 1635–1688), yn forwr, a oedd yn un o ffigyrau enwocaf y Caribi. Yr oedd yr enwocaf a mywaf llwyddiannus o'r preifatwyr o Gymru. Yn 1667, cafodd gomisiwn gan Modyford iddo ysbeilio arfordir deheuol Ciwba ac i ddal ysbeinwyr fel gwystlon o Giwba i amddiffyn Jamaica. Cyrhaeddodd Ciwba a 10 llong a 500 dyn, cymerodd ac ysbeiliodd Morgan ddinas Puerto Principe, Camaguey. Roedd y cynllun gwreiddiol i ymosod ar Hafana ond roedd hyn yn ormod. Gyrrodd stormydd ei llongau i'r lan yn y De, a dihangodd un o'r wystlon, felly cafodd dinasyddion Puerto Principe amser i ddianc efo'i trysor. Enillodd ddim ond 50,000 pieces of eight. Aethon nhw ymlaen i ysbeilio tref cyfoethocaf y Caribi wedyn sef Porto Bello a chasglu 200,000 'pieces of eight'.

Demograffeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthyglau: Demograffeg Ciwba a Crefydd yng Nghiwba
Cyfrifiad Swyddogol 1899-2002 Ciwba
Hil % 1899 1907 1919 1931 1943 1953 1981 2002
Gwyn 66.9 69.7 72.2 72.1 74.3 72.8 66.0 65.05
Du 14.9 13.4 11.2 11.0 9.7 12.4 12.0 10.08
Tras cymysg 17.2 16.3 16.0 16.2 15.6 14.5 21.9 24.86
Asiaidd 1.0 0.6 0.6 0.7 0.4 0.3 0.1 1.0

Yn ôl cyfrifiad 2002, roedd y boblogaeth yn 11,177,743,

Roedd mewnfudo ac allfudo enfawr yng Nghiwba. Cyn y ddeunawfed ganrif roedd y boblogaeth hanner du a hanner gwyn, ond yn y bedwerydd ganrif ar bymtheg daeth mewnforio poblogaeth i weithio yn y diwyddiant siwgr a thobaco, caethion a rhyddion a'r rhan fwyaf yn bobl ddu o'r caribi ac affrica. Ond erbyn diwedd y ganrif a rhywfaint o annibyniaeth (dan hegemoni UDA a Phrydain) daeth mwy o ymsefydlwyr o Sbaen a'r Unol Daleithiau, yn nodweddiadol o'r Ynysoedd Dedwydd, Catalwnia, Andalwsia, Galisia ac o hen drefedigaethau Sbaen i Giwba. Rhwng 1900 a 1930 daeth bron miliwn o Sbaen.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]