Iran
|
|||||
Arwyddair: Esteqlāl, āzādī, jomhūrī-ye eslāmī (Persieg: ("Annibyniaeth a Rhyddfraint Gweriniaeth Islamaidd Iran") | |||||
Anthem: Sorud-e Melli-e Iran | |||||
Prifddinas | Tehran | ||||
Dinas fwyaf | Tehran | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Persieg | ||||
Llywodraeth | Gweriniaeth Islamaidd | ||||
• Arweinydd Goruchel • Arlywydd |
Ali Khamenei Hassan Rouhani |
||||
Chwyldro - Dyddiad |
11 Chwefror 1979 |
||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
1,648,195 km² (18fed) 0.7 |
||||
Poblogaeth - Amcangyfrif 2007 - Cyfrifiad 1996 - Dwysedd |
71,208,000 (18fed) 68,467,413 42/km² (158fed) |
||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2005 $561.1 biliwn (20fed) $8,300 (71fed) |
||||
Indecs Datblygiad Dynol (2006) | 0.736 (99fed) – canolig | ||||
Arian cyfred | Rial (ريال) (IRR ) |
||||
Cylchfa amser - Haf |
(UTC+3.30) dim yn gymwys (UTC+3.30) |
||||
Côd ISO y wlad | .ir | ||||
Côd ffôn | +98 |
Gwlad yng ngorllewin Asia sy'n cael ei chyfrif yn rhan o'r Dwyrain Canol yw Gweriniaeth Islamaidd Iran (Persieg: جمهوری اسلامی ايران, sy'n cael ei lefaru fel [dʒomhuːɾije eslɒːmije iːɾɒn]), neu Iran. Hyd at 1935 fe'i galwyd yn Persia. Y gwledydd cyfagos yw Pacistan ac Affganistan i'r dwyrain, Tyrcmenistan i'r gogledd-ddwyrain, Aserbaijan ac Armenia i'r gogledd-orllewin, a Thwrci ac Irac i'r gorllewin. Mae gan y wlad arfordir ar Fôr Caspia yn y gogledd ac ar y Gwlff a Gwlff Oman yn y de. Tehran yw prifddinas y wlad. Ers y Chwyldro Islamaidd yn 1979 mae Iran yn Weriniaeth Islamaidd.
Cynnwys
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae llwyfandir uchel yng nghanol Iran sy'n cynnwys sawl anialwch a chorsdir. Amgylchynnir hyn gan gyfres o gadwyni mynyddig; y pwysicaf yw mynyddoedd Zagros i'r gorllewin, mynyddoedd Alborz a Kopet i'r gogledd, a rhanbarth anial o fryniau uchel i'r dwyrain. Mynydd Damavand (18,406 troedfedd), i'r gogledd o Tehran, yw mynydd uchaf y wlad.
Mae'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn byw yn y gogledd-orllewin ac ar lan Môr Caspia, sy'n cael y rhan fwyaf o'r glaw; mewn rhannau o'r de a'r dwyrain mae glaw yn brin iawn.
Dyma'r 18ed gwlad mwyaf o ran arwynebedd (sef 1,648,195 km²)a phoblogaeth o dros 70 miliwn.
Pobl[golygu | golygu cod y dudalen]
Er bod y mwyafrif o bobl Iran yn Bersiaid (Iraniaid), ceir yn ogystal sawl grwp ethnig llai, yn arbennig ar ymylon y wlad, e.e. Tyrciaid, Cyrdiaid, Armeniaid ac Arabiaid, a llwythau brodorol lleiafrifol fel y Bakhtyari.
Iaith a diwylliant[golygu | golygu cod y dudalen]
Farsi (Perseg diweddar) yw iaith y mwyafrif, ond siaredir ieithoedd llai hefyd, e.e. Cyrdeg yn y gogledd-orllewin. Mae'r Berseg yn iaith hynafol sydd wedi cynhyrchu un o lenyddiaethau mawr y byd, sef llenyddiaeth Berseg. Ymhlith meistri mawr y llenyddiaeth honno, gellid enwi Omar Khayyam a Hafiz (gweler hefyd Rhestr llenorion Perseg hyd 1900).
Yn yr hen Bersia Zoroastriaeth, crefydd y proffwyd Zarathustra, oedd y brif grefydd. Datblygodd y grefydd allan o'r grefydd amldduwaidd frodorol gyda Ahura Mazda yn brif dduw ac Anahita yn dduwies boblogaidd. Cymerodd Islam lle'r hen grefydd gyda dyfodiad yr Arabiaid ond parhaodd Zoroastriaeth serch hynny ac mae'r grefydd yn dal i oroesi mewn mannau. Heddiw mae mwyafrif helaeth y boblogaeth yn Fwslemiaid Shia. Ymhlith canolfannau crefyddol Iran y mae dinas sanctaidd Qom sy'n atynnu nifer o bererinion.
Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae'r system wleidyddol wedi ei sefydlu ar Gyfansoddiad 1979. Yr Uwch Arweinydd sy'n gyfrifol am oruchwylio polisiau'r Llywodraeth.[1] Ef sy'n gyfrifol hefyd am y fyddin a diogelwch y wlad a'r unig un a gaiff benderfynu mynd i ryfel.
Llywydd presennol Iran ydy Hassan Rouhani, a gafodd ei ethol yn 2013; bydd ei dymor yn dod i ben yn 2017.
Economi[golygu | golygu cod y dudalen]
Enwog yn y gorffennol am ei grefftwaith cain a'i charpedi moethus, heddiw mae Iran yn wlad sy'n perchen ar rhai o'r cronfeydd olew pwysicaf yn y byd: ei chronfeydd nwy yw'r ail fwyaf drwy'r byd, yn dilyn rwsia, gyda 33.6 triliwn metr ciwb[2] a'r drydedd wlad fwyaf o ran y cynhyrchu, yn dilyn Indonesia a Rwsia.
O ran ei |holew crai, cronfeydd olew Iran yw'r pedwerydd mwyaf ar y Ddaear, gydag amcangyfrif o 153,600,000,000 barrels.[3]
Yn 2014, roedd GDP Iran yn $404.1 biliwn ($1.334 triliwn yn ôl PPP), neu $17,100 yn ôl Purchasing power parity y pen.[4]
Taleithiau a siroedd[golygu | golygu cod y dudalen]
Rhennir Iran yn 31 talaith (ostān), a reolir gan lywodraethwyr apwyntiedig (استاندار, ostāndār). Rhennir y taleithiau hyn yn siroedd (shahrestān), a rhennir yn ardaloedd (bakhsh) ac is-ardaloedd (dehestān) yn eu tro.[5]
Nid yw'r map yn dangos ynysoedd deheuol talaith Hormozgan (#20 isod):
|
|
|
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
- Rhaglen niwclear Iran
- Chwyldro Islamaidd Iran
- Llenyddiaeth Berseg
- Perseg
- Rhestr mynyddoedd Iran
- Taleithiau Iran
- Ymerodraeth Persia
- Rhyfel Iran-Irac (1980–88)
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ [1] adalwyd 13 Mai 2008
- ↑ "BP Cuts Russia, Turkmenistan Natural Gas Reserves Estimates". WSJ.com. 12 June 2013. http://www.rigzone.com/news/oil_gas/a/127044/BP_Cuts_Russia_Turkmenistan_Natural_Gas_Reserves_Estimates. Adalwyd 24 June 2013.
- ↑ "CIA.gov". CIA.gov. Archifwyd from y gwreiddiol on 13 June 2007. https://web.archive.org/web/20070613005503/https://www.cia.gov/library/publications/the-world-factbook/rankorder/2178rank.html. Adalwyd 7 April 2012.
- ↑ CIA World Factbook. "Iran". https://www.cia.gov/library/publications/the-world-factbook/geos/ir.html. Adalwyd 7 August 2012.
- ↑ "CIA.gov". CIA.gov. Archifwyd from y gwreiddiol on 13 June 2007. https://web.archive.org/web/20070613005503/https://www.cia.gov/library/publications/the-world-factbook/rankorder/2178rank.html. Adalwyd 7 April 2012.