Uned brosesu ganolog
Oddi ar Wicipedia
Y galedwedd tu mewn i gyfrifiadur sy'n cynnwys y cof, yr uned reoli, a'r uned rifyddeg-resymeg yw'r uned brosesu ganolog.[1] Hon yw prif ran y gyfrifiadur ddigidol sy'n rheoli'r holl beiriant, a gellir cysylltu perifferolion iddi.[2]
Mae'r uned brosesu ganolog yn gweithredu pob cyfarwyddyd y rhaglen gyfrifiadurol mewn trefn, er mwyn gwneud tasgau elfennol rhifyddol, rhesymegol a mewnbwn/allbwn y system. Mae'r term Saesneg sef central processing unit wedi cael ei ddefnyddio ers y 1960au.[3] Mae ffurf, dyluniad a'r modd y defnyddir UBG wedi newid ers yr esiamplau cynharaf, ond mae nifer o'r egwyddorion sylfaenol wedi aros yr un peth.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Cronfa Genedlaethol o Dermau [central processing unit].
- ↑ (Saesneg) central processing unit (CPU). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 25 Awst 2014.
- ↑ Weik, Martin H. (1961). A Third Survey of Domestic Electronic Digital Computing Systems. Ballistic Research Laboratories. URL
Eginyn erthygl sydd uchod am gyfrifiaduron neu gyfrifiadureg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.