Gwynfor Evans
Hafan Gwynfor Evans
English
> Hafan
> Newyddion
> Teyrngedau
> Llyfrau
> Apel Goffa
> Y Barri
> Garn Goch
> Angladd
> Rhiannon
> Dolenni

NEWYDDION 2010 - Plac Cartref Gwynfor, a dadorchuddio Cerflun Efydd yn Llyfrgell y Barri. Pwyswch yma i ddarllen mwy...


GWYNFOR EVANS, Llywydd Plaid Cymru, a'i Haelod Seneddol cyntaf - dros Gaerfyrddin. Gwr a allasai fod yn y Senedd ers blynyddoedd lawer petai wedi newid ei blaid. Gwr a allasai wneud enw mawr iddo'i hun yn y Gyfraith, ond a ddewisodd ddychwelyd i'r wlad i gychwyn tai gerddi sydd heddiw'n rhoi gwaith i ddynion a merched y ei fro.

Fe'i magwyd yn Barri, ac wedi tyfu'n llanc y daeth yn rhugl yn y Gymraeg. Ond yn Sir Gaerfyrddin y mae'i wreiddiau, ac yno, yn Llangadog, y mae'n byw heddiw gyda'i briod a saith o blant. Diacon, athro ysgol Sul, Trysorydd a Chyn-lywydd Undeb yr Annibynwyr. Ysgrifennod lawer, teithiodd bron bob milltir sgwar o Gymru i gyhoeddi neges ei rhyddid hi. Ystyrir ef heddiw gan filoedd yn broffwyd y Gymru fydd. English recording available here.

Daw'r sain yn y ffilm uchod o record byr gan Gwynfor Evans yn dilyn ei ethol yn Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru ym 1966. Hawlfraint Sain - Recordiau'r Dryw, Christopher Davies Ltd, Llandybie, Sir Gaerfyrddin. Lluniau - wedi eu codi o'r we a mannau eraill. Testun Isod - gan Islwyn Ffowc Elis, oddi ar gefn y record.


Mae Gwynfor Evans yn perthyn i griw dethol o bobl a heriodd Margaret Thatcher ac ennill yn ei herbyn. Cafodd ei gynddeiriogi wedi iddi dorri ei gair ynglyn â sefydlu S4C ym 1980 a bygythiodd newynu i farwolaeth. Roedd hynny'n ddigon i beri i'r "Ddynes Haearn" newid ei chân am unwaith.

Fel ymgyrchydd diflino ar faterion fel yr iaith a hunaniaeth ddiwylliannol, digon annisgwyl oedd cefndir Gwynfor. Roedd yn fab i berchennog siop adrannol yn y Barri, tref y dociau yn y de, a ddysgodd Gymraeg pan yn oedolyn.

Yng ngholeg y Brifysgol Aberystwyth y daeth gwleidyddiaeth Gwynfor Evans i'r amlwg. Sefydlodd gangen Plaid Cymru, a oedd yn blaid ymylol ar y pryd, a oedd yn cael ei chysylltu'n bennaf ag ymgyrchoedd uniongyrchol a argymhellwyd gan yr awdur a'r ysgolhaig Saunders Lewis. Roedd Gwynfor yn heddychwr a wrthododd wasanaethu'n yr Ail Ryfel Byd.

Ym 1945, daeth yn Llywydd ar y blaid, a dechreuodd ei ymgyrch yn erbyn boddi pentref Cwm Celyn ger y Bala - cynllun a fyddai'n darparu dwr i Lerpwl. Er i'r ymgyrch fod yn aflwyddiannus, bu'n fodd i amlygu'r bygythiad cynyddol i gymunedau Cymraeg a'r iaith ei hunan.

Daeth ei awr fawr ym 1966 pan alwyd isetholiad yng Nghaerfyrddin. Yn gwbl annisgwyl, enillodd Gwynfor Evans a Phlaid Cymru fuddugoliaeth ysgubol. Dangosodd ganlyniad Caerfyrddin fod Plaid Cymru yn awr yn rym gwleidyddol pwysig. - Oddi ar wefan www.100arwyrcymru.com

Dafydd WigleyDoes gen i ddim gronyn o amheuaeth mai fo ydi'r cenedlaetholwr gwleidyddol mwya' erioed yng Nghymru a Chymro mwya'r ugeinfed ganrif.

Dafydd Wigley, Cyn-lywydd Plaid Cymru