Wicipedia:Y Caffi

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Coffi

Croeso i'r Caffi - y lle i chi drafod sut mae pethau'n gweithio yma, polisïau, a phroblemau technegol a gofyn cwestiynau ynglŷn â Wicipedia, yn Gymraeg neu Saesneg. Mae llefydd defnyddiol yn cynnwys: y Ddesg Gyfeirio, y Ddesg Gymorth, y Tudalen Cymorth iaith a'r negesfwrdd gweinyddiaeth. Ceir rhestr o drafodaethau ar dudalennau sgwrs sy'n disgwyl ymateb yma: Wicipedia:Sgyrsiau cyfoes.

I ychwanegu cwestiwn, cliciwch yma i ddechrau pennawd newydd, a theipiwch eich neges. Cofiwch lofnodi'r neges drwy ychwanegu pedair sgwigl (tilde) (~~~~) ar y diwedd.



Arddull fodern i enwau'r canrifoedd[golygu cod y dudalen]

Cychwynwyd trafodaeth Sgwrs Wicipedia:Arddull#Canrifoedd gan Defnyddiwr:Emyr Ceredig Evans am ein dull ar Wici o enwi'r canrifoedd ee mae'n awgrymu newid 'yr ail Ganrif ar bymtheg' i 'canrif un deg saith', 'Canrif 17' a C17 ayb. Ymunwch a'r drafodaeth! Llywelyn2000 (sgwrs) 10:43, 14 Ebrill 2016 (UTC)

Rhoi'r gorau ar en - dim digon ohonom[golygu cod y dudalen]

Dw i am ganolbwyntio'm llwyr ar Wicipedia Cymraeg a ieithoedd lleiafrifol eraill o hyn ymalaen. Gweler fy sylwadau ar enwici - a dewch nôl i fama! Nid fod hyn o ddiddordeb i neb, chwaith! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:56, 24 Ebrill 2016 (UTC)

Da was, da a ffyddlon AlwynapHuw (sgwrs) 07:48, 25 Ebrill 2016 (UTC)

Cymorth[golygu cod y dudalen]

Help ! Mae'n oesoedd ers imi wneud rhywbeth sylweddol yma. Mae dosbarth tiwtorial imi wedi paratoi defynydd ar gyfer "Ribosom". Sut mae gosod defnydd heb ei orffen ar Wicipedia - cyn ei fireinio a'i rhyddhau ? Mae gen i atgof am y pwll tywod - ond dim atgof am sut i'w ddefnyddio. Defnyddiwr:Deri Tomos

@Deri Tomos: - Smai Deri? Pastia fo yn dy barth di dy hun e.e. Defnyddiwr:Deri Tomos/pwll tywod neu urhyw dudalennau'n cychwyn gyda dy barthenw di ee Defnyddiwr:Deri Tomos/Ribosom. Gad neges ar fy nhudalen Sgwrs Defnyddiwr:Llywelyn2000, os wyt angen rhagor o gymorth. Llywelyn2000 (sgwrs) 12:34, 25 Ebrill 2016 (UTC)
Oes modd defnyddio cyfeiriadau doi?

Sialens Hanes Celf Europeana[golygu cod y dudalen]

Shane Williams - un o'r 10 llun sy'n cynrychioli Cymru.

@Ham II, Jason.nlw: Da ni drwyddo yn y Sialens Gelf gynaf erioed i'w chynnal gan Europeana - sialens sy'n hyrwyddo ein defnydd o Wicidata. A da ni yno - fel Cymru - nid fel rhan o ryw wlad arall! Dyma'r wefan. Gallwch sgwennu am un o'r gweithiau celf o Gymru (plis!) neu un o'r gwledydd eraill. Wedi i chi wneud cofrestrwch ar Wicidata a rhoi Draig Goch wrth eich henw! Braf ei gweld yn cyhwfan ar faes y gad, unwaith eto! Llywelyn2000 (sgwrs) 11:20, 28 Ebrill 2016 (UTC)

Newydd weld fod na lawer o erthyglau Catalwneg wedi'u sgwennu am y lluniau o Gymru. Ychwanegais 2 Gymraeg y bore ma: Blodau mewn fâs a Shane Williams (paentiad) - 3 allan o ddeg! mae na lawer hefyd o wledydd eraill. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:38, 15 Mai 2016 (UTC)

@John Jones, Ham II: - Dim ond 4 erthygl sydd heb ei creu, os oes gan rywun yr awydd! Mae pob un wedi eu creu ar en (!) Llywelyn2000 (sgwrs) 15:12, 26 Mai 2016 (UTC)

Gogwydd o ran rhyw[golygu cod y dudalen]

Yn ddiweddar fe euthom ati i ychwanegu Categori:Merched yn ôl canrif ar erthyglau priodol. Dw i newydd gyfri fod gynnym ar Wicipedia 2,419 o erthyglau ar ferched. Mae na 7488 o erthyglau yn y Categori:Pobl yn ôl canrif, sy'n golygu fod 5,069 yn ddynion. Felly, 32.3% o'n bywgraffiadau ni am ferched a 67.7% yn ddynion. Rhad arnom! A gadewch i ni wella'r anhegwch hwn! Ond mae'r ganran o erthyglau am ferched ar Wikipedia Saesneg tipyn is: nid 32.3% ond 15.5%!!! Er mwyn dod a'r clorian yn hafal, mae angen 1325 ar ferched.

Mae hyn yn gyfystyr a 112 o erthyglau newydd y mis; 28 yr wythnos. 7 neu wyth y ddydd, sy'n gwbwl bosib! Unrhyw syniadau? Llywelyn2000 (sgwrs) 13:26, 3 Mai 2016 (UTC)

Rhestrau o ferched cymwys:
  1. Y Bywgraffiadur Cymreig - tabl ar waelod yr erthygl. Yr enwau sydd mewn italig.
  2. Rhestr Cymry - Yr enwau sydd mewn italig.
  3. Wicipedia:Merched a anwyd yng Nghymru
  4. Rhestr o erthyglau am ferched ar y Wicipedia Saesneg a chategori ar en.
  5. Wicipedia:Deffro'r Ddraig/Erthyglau hanfodol - sy'n cynnwys nifer o ferched sydd angen erthygl arnyn nhw.
Wicibrosiect? Llywelyn2000 (sgwrs) 17:28, 3 Mai 2016 (UTC)
Yn ôl wmflabs fodd bynnag mae na 1432 o ferched a 7034. Dw i'n meddwl mai'r ffigurau o bobl ar Wicidata yw rhain, nid erthyglau ar WP. Llywelyn2000 (sgwrs) 13:26, 23 Mehefin 2016 (UTC)
Newydd ychwanegu Ann Cotton. Gobeithio fod hyn o help! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 15:44, 23 Mehefin 2016 (UTC)

Wikidata Placeholders[golygu cod y dudalen]

Helo pawb. Mae 4 Wici bychan wedi dechrau defnyddio Wikidata i dangos gwybodaeth am pwnc os nad oes erthygl yn bodoli. Mae hwn yn help mawr trwy cynnig rywfaint o gwybodaeth heb yr angen am erthygl ond hefyd bydd hwn yn anog pobol i creu'r erthygl. Hoffwn i cael eich barn am hwn, fel rywbeth gallwn ni ychwanegi i'r Wici Cymraeg. Am engreifftiau a rhagor o gwybodaeth cliciwch yma Diolch Jason.nlw (sgwrs) 08:21, 12 Mai 2016 (UTC)

Jason, diolch am rannu. Mae'r cysyniad yn addawol iawn o ran dangos gwybodaeth heb erthygl ac i annog pobl i greu erthygl. Ond mae'r enghraifft yn yr iaith Odia yn cynnwys darnau o Saesneg. Ai dyna fyddai'r drefn ar Wicipedia Cymraeg? Gallai hi achosi dryswch os fydd darnau o Saesneg oddi wrth Wikidata. Jyst gofyn. Dw i'n gwybod taw enghraifft yn unig oedd hi. Heblaw am y cwestiwn yma byddaf i o blaid 'hadau syniadau' dw i'n meddwl. --Oergell (sgwrs) 10:51, 13 Mai 2016 (UTC)
@AlwynapHuw, Anatiomaros, Llywelyn2000: Newydd weld ar @WiciCymru mai o Wicidata mae'r wybodaeth yn dod, ond mae deall hwnnw fel ceisio dianc allan o labrinth! Cytuno a chi eich dau, da ni ddim eisau mwy o Saesneg ar Wici. Mae cadw ein hunaniaeth a'n hannibyniaeth yn hanfodol. Dwn i ddim os ydych chi'n sylweddoli hyn, ond gallem greu unrhyw reolau da ni isio yma ar y wici cy. Dydan ni ddim yn ddibynol ar y gweddill ieithoedd nac ar Wicimedia mewn unrhyw fodd nac yn ddarostyngedig i'w rheolau nhw - cyn belled a'n bod ni fel cymuned wedi trafod a chreu rheolau amgenach. '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 19:17, 13 Mai 2016 (UTC)
O'r olwg gyntaf, dwi ddim wedi fy argyhoeddi am y syniad yma, o edrych ar yr enghreifftiau. Mae Wikidata am ddod yn hynod ddefnyddiol a phwerus, er mwyn osgoi dyblygu data cyffredin ar draws wikis; manylion bywgraffiadol, rhestrau o weithiau creadigol ac ati a fe ddylai fod yn bosib cyflwyno hyn yn rhaglennol gyda gwyneb Cymraeg. Ond o greu 'ffug-erthygl' dwi ddim yn siwr sut mae hyn yn annog creu erthygl go iawn, yn fwy na gweld 'bwlch'. Does gen i ddim ystadegau ond dwi'n amau fod rhan fwyaf o bobl yn cyrraedd Wicipedia drwy chwiliad Google yn hytrach na dod yma a chwilio yn y blwch uwchben. A dwi'n cymryd na fydd y ffug-erthyglau yn ymddangos i beiriannau chwilio (fe fyddai hynny'n syniad gwael iawn). Yn hytrach na gwneud hyn, pam ddim defnyddio Wikidata a bot i greu miloedd o erthyglau egin? Dwi ddim yn meddwl bod hynny'n syniad da gyda llaw, ond y cwestiwn i fi yw - beth fyddai'n annog pobl i gyfrannu gwybodaeth ddefnyddiol? --Dafyddt (sgwrs) 19:44, 13 Mai 2016 (UTC)
Dafydd: ar y fflei mae rhain yn cael eu creu - ar amrantiad - pan mae darllenwr yn chwilio am air heb erthygl Gymraeg. Mae fyny iddo fo/hi wedyn ydy o/hi am optio am ddenyddio'r stwff ar WiciData a gynigir, neu beidio. Dydy o ddim yn golygu miloedd o egin pitw, diolch byth! Wicidata - rhaid cael trafodaeth am hyn eto. Pwerus - ydy, ac mae'n HANFODOL ein bod yn cadw'r hawl i'w dderbyn neu ei wrthod, fel mae John yn ei awgrymu, dwi'n meddwl e.e. os da ni'n dod a baneri gwledydd ar enwau pobl - yna pa faner? Jac yr undeb / Brit ydy'r Cymro Tom Pryce ar Wikipedia English, a nifer o Gymru eraill. Ond dw i ddim yn meddwl fod derbyn hwn yn gam at hynny, cyn belled a'n bod yn medru ei ddiffodd hefyd! Mi fydd na Saesneg yn dod fewn, a hynny gan nad ydym wedi cyfieithu popeth ar Wicidata. Opsiwn arall fyddai gofyn iddyn nhw droi'r Almaeneg fel default i ni! Pam lai? Llywelyn2000 (sgwrs) 07:43, 14 Mai 2016 (UTC)
Pe baech yn teipio cactws (neu beth bynnag yw hynny yn nap-wiki; Neapolitan), a dim erthygl dyma fasech chi'n ei gael, gyda dim en! Mae na rywbeth yn dweud wrtha i y dylem ei drio, am gyfnod, a'i droi i ffwrdd os ydy o'n rwts. Llywelyn2000 (sgwrs) 15:11, 25 Mai 2016 (UTC)
Diolch i bawb am y sylwadau. Fi’n deall y pryderon am ormod o Saesneg yn ymddangos yn y testun, Mae’n bosib bydd modd i ni ddewis i beidio dangos unrhyw ddata heblaw am y Gymraeg, ond eto mae’n bosib bydd gweld y Saesneg yn annog pobol i gyfieithi’r testun ar Wikidata, sydd yn gwaith pwysig. Yn edrych i’r dyfodol, bydd e’n haws creu erthyglau gyda bots os mae’r wybodaeth ar gael trwy’r Gymraeg ar Wikidata yn barod. Mi wna’i gwneud ymholiadau ynglŷn â’r Saesneg ac adrodd nôl. Wedyn fi’n credu ei fod y ffordd gorau ymlaen fydd gofyn i chi, y gymuned, i bleidleisio dros gynnal yr offer. Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 15:27, 4 Gorffennaf 2016 (UTC)
@AlwynapHuw, Anatiomaros, Llywelyn2000, Oergell, Dafyddt, John Jones, Ham II: Fi wedi siarad gyda’r datblygwyr ac maen nhw’n dweud, er bod e'n bosib i beidio dangos unrhyw Saesneg na fyddwn nhw’n awgrymu mynd lawr y llwybr yma gan mae rhifau P a Q Wikidata bydd yn ymddangos yn eu lle, sy’n golygu dim i’n darllenwyr. Yr opsiwn gorau meddau nhw, yw gwneud yn siŵr bod pod 'Properties' Wikidata wedi cyfieithu i Cymraeg (2500 sydd) cyn i'r placeholders mynd yn fyw, a wedyn defnyddio'r offer Wikidata yma i weithio trwy labeli a disgrifiadau poblogaeth.
Yn fy marn i dylem ddylyn y llwybr yma, achos mae’n annog pobl i gyfieithu’r Wikidata, a fi’n hapus i helpu gyda’r gwaith yma, a hefyd bydd llawer mwy gwybodaeth ar gael i bobl trwy’r Gymraeg, a dylai hyn annog pobl i greu mwy o erthyglau.
Byddaf yn ddiolchgar iawn os gallwch chi dangos eich cefnogaeth neu wrthwynebiad i gynnal y Placeholders ar y Wiki Cymraeg. Cofiwch bydd modd trwy hwn bant os nad yw e'n gweithio i ni fel cymuned. Diolch Jason.nlw (sgwrs) 09:36, 6 Gorffennaf 2016 (UTC)
  • Cefnogi Jason.nlw (sgwrs) 09:36, 6 Gorffennaf 2016 (UTC)
  • Cefnogi Ac os nad yw'n llwyddiant, gallem ei ddiffodd! Diolch Jason am yr Arweiniad. Llywelyn2000 (sgwrs) 14:23, 6 Gorffennaf 2016 (UTC)
  • Cefnogi(ish) Rhown arbrawf arni AlwynapHuw (sgwrs) 02:20, 8 Gorffennaf 2016 (UTC)
  • Cefnogi. Beth fydd y terminoleg Cymraeg ar gyfer "placeholder" a "property"? Ham II (sgwrs) 05:51, 8 Gorffennaf 2016 (UTC)@Ham II:
Cwestiwn da! beth am "Dalfan" a "Rhinwedd"? Jason.nlw (sgwrs) 09:36, 8 Gorffennaf 2016 (UTC)
Ro'n i'n cynnig 'hadau syniadau' (uchod) hy meddwl am derm gwreiddiol yn hytrach na chyfieithu ystyron rhannau o'r geiriau. Gan mai unigol ydy placeholder, mae angen (o bosib) rhywbeth fel 'bwced hadau syniadau' neu 'Y Pwll Syniadau', er mae 'Dalfa' / 'Y Ddalfa' yn llithro'n rhwydd ar y tafod ac yn naturiol i'r glust! Mae 'property' yn un o ddwy nodwedd bwysicaf Wicidata - y llall yw 'eitem' (y Ps a'r Qs). Ham - ro'n i'n meddwl fod hwn wedi'i gyfieithu tua dwy flynedd yn ol i 'Priodwedd'? Llywelyn2000 (sgwrs) 04:49, 9 Gorffennaf 2016 (UTC)
Onid un tudalen yw pob "placeholder"? Beth am "dalen dros dro" neu rhywbeth tebyg? Rwy'n cytuno gyda "priodwedd", ond rwy wedi dod ar draws y cyfieithiad "eiddo" mewn ambell i le felly roeddwn i eisiau bod yn sicr. Ham II (sgwrs) 05:32, 9 Gorffennaf 2016 (UTC)
"Dalen data"? Jason.nlw (sgwrs) 09:33, 11 Gorffennaf 2016 (UTC)
Pa bynnag enw a ddewisir, dylai ddweud wrth y golygydd newydd beth yw ei bwrpas. Dylai fod yn hunan-esboniadwy! Mae placeholder yn wael; gallwn wella ar hyn! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 13:04, 12 Gorffennaf 2016 (UTC)

Diolch yn fawr i pawb sydd wedi cyfrannu i'r trafodaeth. Fi wedi gwneud cais swyddogol i cynnwys y Placeholders ar Phabricator Jason.nlw (sgwrs) 08:54, 19 Gorffennaf 2016 (UTC)

Ffotograffau newydd ar Comin[golygu cod y dudalen]

Bore da!

Ychwanegwyd dros 5,000 o ffotograffau'n ddiweddar o drefi ac adeiladau ayb yng Nghymru i Gomin Wicimedia. Ceir sampl syml isod, fel tamed i aros pryd! Mae nhw o safon eitha da, wedi'u cymryd gan Defnyddiwr:Nilfanion. Ceir dolenni glas isod ar y map - i gategoriau ar Comin. Gobeithio y byddant o ddefnydd i chi! Richard Nevell (WMUK) (sgwrs) 10:52, 16 Mai 2016 (UTC)

Cliciwch ar y siroedd (mewn glas)
Ynys Môn Conwy Gwynedd Penfro Caerfyrddin Abertawe Nedd Port Talbot Pen-y-bont ar Ogwr Merthyr Tydfil Bro Morgannwg Caerdydd Casnewydd Torfaen Mynwy PowysWales, administrative divisions images cy.svg
Ynglŷn â'r ddelwedd hon


Cymdeithas Edward Llwyd[golygu cod y dudalen]


Datblygiadau enfawr ar Eiriadur Rhywogaethau Cymdeithas Edward Llwyd (Y Bywiadur)! Diolch i Duncan Brown a Wici mae na filoedd o luniau wedi ymddangos yn eu geiriadur - a dolenni i Wicipedia Cymraeg pan fod erthygl yn bodoli!!!! Er mwyn torfoli llun coll, dw i wedi dechrau Wicibrosiect Cymraeg ar Comin. Ond dw i'n gobeithio mai naturiaethwyr ledled y byd fydd yn mynd i'r afael a'r gwaith yma, ond efallai y gallem gadw llygad - a'u helpu! Mae'r bartneriaeth efo Cymdeithas Edward Llwyd yn dangos sut y gall corff allanol, trydydd parti elwa o ffeiliau ar drwydded rhydd. Ymlaen! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:42, 18 Mai 2016 (UTC)

Ciplun o wefan Cymdeithas Edward Llwyd; Mai 2016.

Gweinyddwyr sydd heb olygu ers tros flwyddyn[golygu cod y dudalen]

Os nad yw Gweinyddwr wedi golygu ers tros flwyddyn, gallem ddileu ei hawliau fel Gweinyddwr. Da ni wedi gwneud hyn unwaith yn y gorffennol, tua tair blynedd yn ôl. Mae'r canllawiau ynghylch dileu'r statws yn fama: Wicipedia:Gweinyddwyr. Ceir 3 gweinyddwr sydd heb olygu ers tair blynedd:

Dydy dileu eu statws ddim yn ddi-droi'n-ôl. Ar hyn o bryd mae gennym 16 Gweinyddwr, sydd gryn dipyn yn fwy na wicis eraill o'r un maint - a rhai llawer mwy! Gweler Meta a'r rhestr hon.

Rhoddwyd yr hawl, hefyd i Defnyddiwr:Jim Carter fod yn Weinyddwr dros dro. Gwnaeth gybolfa iawn o rai o'r Nodion a greodd; gweler ei dudalen Sgwrs.

Awgrymaf ein bod yn tynnu statws y 4 Gweinyddwr yma. Llywelyn2000 (sgwrs) 04:20, 19 Mai 2016 (UTC)

@Llywelyn2000: I have requested at @Deb: talk page to remove my admin userright long ago. Jim Carter (sgwrs) 07:13, 20 Mai 2016 (UTC)
Diolch! Many thanks! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:28, 20 Mai 2016 (UTC)
Gan nad oes ganddyn nhw wrthwynebiad, yna cytunaf i ddiddymu eu statws fel Gweinyddwr. Ac yna llenwi un o'r tri (nid mod i eisiau job - mae na eraill sy'n treulio llawer mwy o'u hamser, ac yn haeddu'r gwaith, llawer mwy na fi! Yn bwysicach - does gennym run Stiward ar cy-wici!!! Felly, ar hyn o bryd, mae'n rhaid i'r tri Biwrocrat fynd a chap yn eu llaw i ofyn i Stiward ar en-wici i ddiddymu eu statws! Mae hyn yn ein gwneud yn wicipedwyr eilradd. '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 13:16, 12 Gorffennaf 2016 (UTC)
Ti'n llygad dy le. Ond mae'r geiriad yma yn anghywir: "Nid oes gan fiwrocratiaid yr hawl i dynnu hawliau gweinyddwyr na rhoi hawliau lefelau uwch." (gweler: Wicipedia:Biwrocratiaid. Mae gan Fiwrocrat yr hawl i ddiddymu hawliau Gweinyddwyr, ond nid hawl Biwrocrat arall; ac mae Defnyddiwr:Porius yn Fiwrocrat. Mi wna i gyfieithu'r manylion o en. Llywelyn2000 (sgwrs) 04:56, 16 Gorffennaf 2016 (UTC)
Newydd gywiro'r dudalen Wicipedia:Biwrocratiaid. Mae dy sylw ar rym y Stiward yn gywir, ond os edrychi ar y dudalen hon, ar Meta mae nhw'n cael eu creu, nid en. Dydy o ddiawch o ots gen i fynd i Meta efo fy nghap yn fy llaw! Ond mae angen barn defnyddiwr/wyr eraill ynglyn a tynnu hawliau'r tri defnyddiwr, os gwelwch yn dda. Gellir tynnu'r hawliau os nad yw'r defnyddiwr wedi golygu ers blwyddyn. Dyw Glanhawr heb olygu ers dros 2 flynedd a hanner a'r ddau arall ers bron i 5 mlynedd. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:25, 16 Gorffennaf 2016 (UTC)

Cader Idris wedi newid[golygu cod y dudalen]

Diolch i'r drafodaeth yma yn y Caffi, a phenderfyniad y Parc Cenedlaethol heddiw, newidiwyd enw'r mynydd o Gadair Idris i Gader Idris. Diolch i @AlwynapHuw: am ei flaengaredd ac am ddadlau ei achos mor gryf a deallus. Yn y gorffennol, rydym wedi dilyn cyrff a sefydliadau allanol fel y Parc, Geiriadur y Brifysgol ayb; efallai y dylem, rwan newid a thorri ein cwys ein hunain. UDI. Mae angen polisiau chwyldroadol arnom os yw cywici yn parhau gan y daw dydd y bydd eraill yn ceisio dweud wrthym ni beth fydd y cynnwys. Annibyniaeth. A diolch i Alwyn am feddwl annibynol! Llywelyn2000 (sgwrs) 21:42, 8 Mehefin 2016 (UTC)

TED speaker challenge[golygu cod y dudalen]

symudwyd --->

70,000 o erthyglau[golygu cod y dudalen]

Draig Wici 2 Dathlu 70,000 erthygl Mehefin 2016.png

Cyrhaeddwyd 70,000 o erthyglau'r bore ma am 04:37: erthygl gan Defnyddiwr:AlwynapHuw, sef Richard Vaughan (Corsygedol). Llongyfs cynnes iawn i Alwyn a phawb arall a fu wrthi mor ddyfal - mae pob erthygl yn cyfri, wrth gwrs, ac yn anrheg gwerthfawr iawn i'n dinasyddion, i ddyfodol y Gymraeg ac i barhad cyfoeth yr amrywiaeth. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:53, 21 Mehefin 2016 (UTC)

@John Jones: @Llywelyn2000: Mae Hafan heddiw yn dangos bod erthygl rhif 71,001 wedi ei greu! Sydd yn od ar y naw, gan fy mod yn sicr imi ysgrifennu erthygl tua 71,200 Dydd Mercher diwethaf. Pam bod gymaint o erthyglau wedi eu dileu? AlwynapHuw (sgwrs) 05:20, 28 Awst 2016 (UTC)

Peace Treaties in Art 30 x 30 Challenge[golygu cod y dudalen]

symudwyd --->

Mae'r Sialens yma'n ymwneud a gweithiau celf. Dw i newydd ychwanegu'r cyntaf, gan fod y criw sy'n trefnu yn hen griw da o Wlad y Basg. Mae na 29 ar ol! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:45, 23 Mehefin 2016 (UTC)

0au[golygu cod y dudalen]

symudwyd --->

Gwefan OGL 'Gwobrau Dewi Sant'[golygu cod y dudalen]

Mae'r wefan 'Gwobrau Dewi Sant' ar drwydded agored OGL. Oherwydd hyn, gallem gopio a phastio'r testun i greu erthyglau (yn enwedig o'r benywod!) - nid mod i'n awgrymu gwneud hynny, gan fod angen niwtraleiddio'r dweud rhyw ychydig! Ond mae copio a phastio talpiau'n bosib, a chwynu wedyn. Dw i wedi gwneud cais i rywun fotio'r holl luniau i Comin, a dw i'n siwr y dont cyn hir. Dw i hefyd wedi cychwyn ar Gwobr Dewi Sant, a gellir greu dolennau o bob person i'r erthygl hon. Felly, mae croeso i chi weithio ar y rhain, os yw at eich dant. Unigryw! Unigryw! Llywelyn2000 (sgwrs) 18:16, 26 Mehefin 2016 (UTC)

Y Flaengroen Bendigaid[golygu cod y dudalen]

Oes modd i un sydd a well dealltwriaeth o'r treigliadau na mi gwirio'r erthygl hon ogydd Y Flaengroen Bendigaid, mae Cysill yn anwadal Y Blaengroen / Y Flaengroen & Bendigaid / Fendigaid dioch AlwynapHuw (sgwrs) 05:32, 13 Gorffennaf 2016 (UTC)

Rhyng-gysylltiadau ar nodiadau[golygu cod y dudalen]

Ar hyn o bryd mae nodyn en:Cite web yn cysylltu gyda cy:Dyf gwe a'r un fath gyda Cite news a Cite journal.

Mae hyn yn boendod mawr am nad yw'r fersiwn Cymraeg yn defnyddio yr un paramedrau, er fod ganddo ni hefyd Nodyn:Cite_web ar y Wici yma hefyd. Doedd hyn ddim yn broblem wrth greu cynnwys fel arfer OND mae'r teclyn cyfieithu yn trosi nodiadau yn awtomatig gan ddefnyddio cysylltiadau Wikidata. Felly ar ôl cyfieithu mae angen newid "Dyf gwe" nôl i "Cite web" (neu drosi'r holl baramedrau i fersiwn "Dyf gwe"). Beth bynnag mae hyn i gyd yn gwastraffu amser wrth gyfieithu erthyglau hir gyda llawer o gyfeiriadau. Dwi wedi gofyn draw yn mediawiki am y newid a roedden nhw'n addo datrysiad er dyw e ddim wedi ymddangos yma mor belled.

Felly… fy awgrym i fyddai datgysylltu "Dyf gwe" a'i ffrindiau a chysylltu "cy:Cite web" gyda'i bartner ar enwiki. Dwi'n credu fod hyn yn gwneud synnwyr i'r holl nodiadau sy'n cael eu copïo. A phwynt mwy cyffredinol - dwi ddim yn gweld pwynt cyfieithu nodiadau a pharamedrau. Wedi'r cyfan y peth pwysicaf yw fod y cynnwys gweledol yn Gymraeg nid yr holl bethau mewnol. Mae yna lawer iawn o hen nodiadau a ddatblygwyd yn arbennig fan hyn ond sydd yn hen ffasiwn neu ddim yn gweithio'n dda ar ddyfeisiau symudol. Does gan neb yr amser fan hyn i gadw fyny gyda diweddaru y cannoedd o nodiadau sydd ar gael a felly mae'n well i ni ganolbwyntio ar y cynnwys. Sylwadau? --Dafyddt (sgwrs) 15:41, 15 Gorffennaf 2016 (UTC)

Cytuno'n gryf! Diolch Dafydd am fynd ati fel hyn! Fel rwyt yn ei ddwued - 'y peth pwysicaf yw fod y cynnwys gweledol yn Gymraeg nid yr holl bethau mewnol'. Gant y cant! Dw i di bod yn defnyddio'r dull hawddaf un o gyfeiriadaeth, gan fod ei gymhlethu'n atal pobl rhag golygu! Y symlaf ydyw gorau byd, ddwedwn i. Mae na wici newydd yn deor (proses yr incubator!) - wici-ddyfynu; gan fod academia'n mynnu cyfeiriadaeth safonol. Mae hyn yn iawn, cyn belled a bod ei ddefnyddio'n mynd i fod yn hawdd. Dyma, efallai beth sydd wedi dal Meta yn ol. Fe ddaw! Tan hynny, diolch am yrru'r cwch i'r dwr! Yn bersonol, mae gen i ffydd i ti weithredu ar ein rhan efo hyn. Ymlaen! Llywelyn2000 (sgwrs) 16:30, 15 Gorffennaf 2016 (UTC)
Cytuno'n wan Y cynnwys sy'n bwysicaf, yn amlwg, ond mae dangos bod y bol yn Gymraeg yn ogystal a'r bogail yn bwysig i barhad yr iaith. Hwyrach fy mod yn rhy sensitif ond rwy'n gwylltio o weld URL Saesneg ag lang=2 Cy yn ategiad iddo. Os yw'r iaith am barhau mae'n bwysig mynnu bod <>lliw<> yn gweithio cystal a <>color<> wrth greu gwefan. Rwy'n teimlo fel bradwr i'r iaith pob tro 'rwy'n sgwenu <.ref> yn hytrach na <.cyf> ar gyfer cyfeirnod AlwynapHuw (sgwrs) 03:48, 20 Gorffennaf 2016 (UTC)
Gallem newid y codio yma Alwyn, os wyt yn credu ei fod yn flaenoriaeth; dwina run peth efo <gallery> ayb; ond i mi, yr hyn sy'n weladwy i'r darllenydd ydy'r peth pwysicaf! Cychwyn rhestr o'r pwysicaf, a mi ffindiwn ble i'w cyfieithu. Gyda llaw - mater bach fyddai newid 'File:' i 'Delwedd:' (ayb) efo bot. Llywelyn2000 (sgwrs) 09:20, 20 Gorffennaf 2016 (UTC)

Vocab[golygu cod y dudalen]

Amser maith yn ôl roedd fe ddefnyddiom ni Vocab y BBC ar Wici, ond roedd ganddo hysbyseb reit hyll a thynnwyd y diawch yn reit sydyn. Roedd yr egwyddor yn un da - caniatau i bobl gael esboniad ar air pe baen nhw'n dymuno hynny. Bellach, mae'r Uned Technolegau Iaith wedi datblygu'r feddalwedd, gan ei gysylltu i'w myrdd o eiriaduron, ac nid oes hysbys yn agos ato! Carwn ei dreialu am gyfnod; gallem ei dileu unrhyw dro, os nad yw'n plesio. Mae Cymru Fyw yn ei ddefnyddio, mae Popeth Cymraeg yn ei argymell. Dyma'r sgript. Unrhyw gefnogaeth i hyn? Llywelyn2000 (sgwrs) 04:28, 16 Gorffennaf 2016 (UTC)

Cefnogi rhoi go arni, wedyn cawn ystyried ei werth ym mhen y rhawg AlwynapHuw (sgwrs) 03:06, 20 Gorffennaf 2016 (UTC)
@AlwynapHuw: Gwych. Mae na fotwm handi i'w roi mlaen ac i'w ddiffodd! Llywelyn2000 (sgwrs) 18:06, 7 Awst 2016 (UTC)

Dileu tudalen[golygu cod y dudalen]

Helo. Newydd ffindo tudalen llawn ar bwnc wedi i mi geisio creu tudalen newydd! Sori! Sut mae dileu'r darn newydd? Rwy' wedi twtio rhywfaint ar y gwreiddiol bellach a'i gywiro mewn un man! Penyderyn (sgwrs) 08:02, 7 Awst 2016 (UTC)

@Penyderyn: Diolch! Dw i wedi gwneud yr un peth droeon! Does dim gwaeth! Newydd newid y ddalen newydd yn ailgyfeiriad. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:52, 7 Awst 2016 (UTC)

Wikidata Placeholders i mynd yn fyw[golygu cod y dudalen]

Helo pawb, dim ond gair sydyn i nodi bod ni'n gobeithio bydd y Wikidata placeholders yn mynd yn fyw ar cy Wici ar y 10fed rhwng 16:00-17:00 UTC. Diolch Jason.nlw (sgwrs) 13:53, 9 Awst 2016 (UTC)

Heno, rhen blant bach! Go dda! Llywelyn2000 (sgwrs) 05:31, 10 Awst 2016 (UTC)
Mae'r placeholders yn fyw! Dyma enghraifft. Cofiwch, mae modd cyfieithu Saesneg i'r Cymraeg ar Wikidata. Jason.nlw (sgwrs) 19:33, 10 Awst 2016 (UTC)
Sut mae ei droi ymlaen? '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 10:18, 12 Awst 2016 (UTC)
@John Jones:. Nid oes angen trwy hwn ymlaen, mae'n ymddangos yn awtomatig. Am ryw reswm nid yw'r teclyn yn darganfod data am rai pethau - (mi wna'i edrych mewn i hwn) ond fel enghraifft chwilio am 'Ford Prefect'. Ar waelod y tudalen o ganlyniadau bydd adran 'Discover data on the topic' (mae'r Gymraeg ar y ffordd!) clicio ar un o'r canlyniadau i weld y data. Jason.nlw (sgwrs) 11:34, 17 Awst 2016 (UTC)

Gwobr Eisteddfod[golygu cod y dudalen]

@Llywelyn2000: Wedi bod yn pori trwy Restr Testunau Eisteddfod 2017 ac wedi sylwi bod nifer o gystadlaethau sgwennu ar gyfer cyfrwng arbennig yn y gwahanol adrannau ee

  • 130 Adolygiad o westy
  • 134 Erthygl ar wyddoniaeth
  • 169 Portread o gynefin neu unigolyn
  • 170 Erthygl addas i Bapur Bro
  • 171 Adolygiad o lyfr
  • 173 Post Blog
  • 174 Erthygl newyddiadurol

A meddwl tybed oes modd cynnig gwobr yn Eisteddfod Urdd / Genedlaethol 2018 ar gyfer erthygl addas i'w cyhoeddi /wedi ei gyhoeddi ar Wicipidia? AlwynapHuw (sgwrs) 03:49, 10 Awst 2016 (UTC)

Syniad gwych! Beth am drydar Sioned Hughes gan ei chyfeirio hi at y sgwrs yma? Mi holaf inna am y wobr - be sy'n arferol? £100?
Steddfod Mon. Dw i wedi cyfarfod y swyddogion, a gobeithiwn y bydd gennym brosiect Wici Mon; manylion i ddod; mae hwn yn syniad da Alwyn, ac ella nad ydyw'n rhy hwyr. Rwan hefyd ydy'r amser i drafod a allem gael pabell i hyfforddi ayb. Bril! Llywelyn2000 (sgwrs) 05:29, 10 Awst 2016 (UTC)
Bydd angen cysylltu gyda Phwyllgor Llenyddol Eisteddfod 2018 cyn gynted a byddent yn ffurfio - dwi'n gwybod fod pwyllgorau testynau Môn wedi cwrdd ym mis Medi/Hydref 2015 i baratoi Testynau i'w cyflwyno ym mis Chwefror 2016 ar gyfer Eisteddfod 2017. Yr unig broblem all fod y rheol fod unrhyw gystadleuaeth newydd yn gorfod parhau am dair blynedd. Blogdroed (sgwrs) 17:18, 11 Awst 2016 (UTC)

Problem gyda gwybodlen[golygu cod y dudalen]

Dwi'n cael mymryn o drafferth ceisio dadansoddi a phigo'r darnau allan o Nodyn:Infobox sportsperson. Gan edrych ar Jazmin Carlin fel enghraifft, dyw'r côd Medal|Gwlad ddim yn gweithio i ddynodi GBR yn y Gemau Olympaidd ac yna CYM yng Ngemau'r Gymanwlad - dwi di cael cur pen yn ceisio gweithio allan be sydd wedi digwydd yn wreiddiol efo'r côd! Hefyd, oes modd cyfieithu'r show|hide yn y blwch? Diolch am unrhyw gymorth Blogdroed (sgwrs) 17:24, 11 Awst 2016 (UTC)

Ro'n i'n meddwl fod hwn wedi'i ddatrus yn Ebrill; fe elli weld y sgwrs yma, ond na. Dw i wedi bocha ychydig fel y gweli, ond yn ddim nes at y last! Ti isio gofyn i Redrose eto am ei gymorth? Fo ydy'r gore, dw i'n meddwl. Mae gen i 3 cais am gymorth efo 'Show' ar en, a dim lwc efo run. Mae'n rhaid mod i wedi eu pechu nhw - rol i mi roi'r ffidil Saesneg yn y to! @Xxglennxx, Dafyddt: - fedri di helpu? Cofion... Llywelyn2000 (sgwrs) 19:19, 11 Awst 2016 (UTC)
Ie, mi wnes i gymryd golwg cyflym ar hwn o'r blaen ond wna'i edrych eto. Mae cyfieithu y meysydd falle yn broblem (neu o leia ei wneud yn anoddach datrys!). Ond mae rhywbeth gwell yna nawr gyda nodyn newydd ar gyfer {{CYM}}. Wnes i chwilio sbel yn ôl am sut i gyfieithu show/hide - mae'n rhywbeth yng nghraidd MediaWiki ond o'n methu dod o hyd i le yn union! --Dafyddt (sgwrs) 20:50, 11 Awst 2016 (UTC)
Be fase'r cyfieithiad gorau am 'Event' (yn y wybodlen chwaraeon). Mae'n gyfuniad o Gamp/Ras/Arddull/Gornest yn dibynnu ar y fath o chwaraeon a chystadleuaeth e.e. Dull Rhydd/nofio 100m/naid uchel/gornest judo/ras redeg 10,000m. Efallai mai 'digwyddiad' yw'r unig ateb sy'n cwmpasu popeth, neu 'cystadleuaeth'? --Dafyddt (sgwrs) 09:49, 12 Awst 2016 (UTC)
Dwi'n credu mai 'camp' ydi'r enw mwyaf addas. Diolch i bawb am eu help, gyda llaw Blogdroed (sgwrs) 10:12, 12 Awst 2016 (UTC)

Glas y Dorlan Sanctaidd?[golygu cod y dudalen]

Devonport02LB.jpg

Tynnais 'i'r llun yn Devonport, Seland Newydd a dw i ddim yn hollol sicr pa fath o las y dorlan oedd o.Lesbardd (sgwrs) 09:44, 18 Awst 2016 (UTC)

Mae lleoliad y Kookaburra yn atgoffa fi o barodi o'r gan boblogaidd Kookaburra (cân) mae fy neion yn Awstralia yn canu:

Kookaburra sits on a lectric wire,
Tears in his eyes 'cos his bums on fire
Cry, Kookaburra, cry, Kookaburra,
Hot your bum must be!
AlwynapHuw (sgwrs) 05:40, 28 Awst 2016 (UTC)

@Lesbardd, AlwynapHuw: Mae Davyth a Duncan, Llên Natur, yn awgrymu efallai mai'r Pysgotwr cysegredig (Todiramphus sanctus / Sacred kingfisher) ydy o. Mae'n nhw'n ymestyn eu cais am wybodaeth i arbenigwyr yn Seland Newydd, fel dw i'n teipio, a dof nol os bydd rhagor o wybodaeth! Mae na luniau da ohono yn barod ar Comin, ond dim un o'i bel-ol o Les! Da iawn am lenwi bwlch! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:22, 2 Medi 2016 (UTC)
Diolch; gwna' i aros am wybodaeth bellach.Lesbardd (sgwrs) 20:21, 2 Medi 2016 (UTC)
Dyna'r ymateb felly gan Llen Natur: Pysgotwr cysegredig] (Todiramphus sanctus). Llywelyn2000 (sgwrs) 11:32, 15 Medi 2016 (UTC)
Dw i wedi cysylltu a ffrind, Martin Curtis (naturieithwr, dringwr, canwr gwerin a glanhawr swyddogol toiledi cyhoeddus Cardrona). Pysgotwr cysygredig ydy hi. Gwna' greu'r dudalen.Lesbardd (sgwrs) 07:53, 23 Medi 2016 (UTC)

Gwyliau Mabsant[golygu cod y dudalen]

Peth amser yn ôl bu rhywun yn holi am restr o wyliau mabsant Cymreig, methu cofio pwy. Mae nifer o'r Saint Cymreig/Brythonig yn cael eu rhannu rhwng y gwledydd Celtaidd, gan hynny gallasai'r ddalen hon ar Wicipedia Ffrangeg bod o ddefnydd Calendrier breton des saints Calendr o saint Llydaw AlwynapHuw (sgwrs) 14:05, 1 Medi 2016 (UTC)

Dw i ddim yn sant o bell ffordd, ond mi fydd hwn yn ddefnyddiol iawn! Dw i'n siwr y gallem greu un am seintiau Cymru hefyd, neu'n well byth, y gall Wicidata greu rhestr otomatig. Mae hwn gennym ni: Rhestr o seintiau Cymru, a dw i'n gweithio drwyddo fo'n ara deg. Diolch Alwyn! Llywelyn2000 (sgwrs) 03:14, 2 Medi 2016 (UTC)
Yn ôl rheolau Barddas (2004) does dim hawl i unigolyn bod yn Brifardd ac yn Sant, dyna paham dy fod di'n prifardd a finnau dim :-) AlwynapHuw (sgwrs) 02:12, 3 Medi 2016 (UTC)

Archif S4C ar Borth y Coleg Cymraeg[golygu cod y dudalen]

Mae na gynlluniau i ddarparu llawer o adnoddau, gan gynnwys ffilm, ar y Porth. Er fod y gwaith dan drwydded Anfasnachol, dydw i (yn bersonol) ddim yn gweld dim o'i le mewn rhoi clipiau dan drwydded 'Defnydd Teg' oherwydd eu gwerth hanesyddol, addysgol. I weld y stwff, bydd yn rhaid i chi ymaelodi am ddim a'r CCC yna 'Mewngofnodi' (top dde): fama. Llywelyn2000 (sgwrs) 09:08, 8 Medi 2016 (UTC)

Deunyddiau agored[golygu cod y dudalen]

Fyddai'n syniad cael Rhestr o ddeunyddiau ar gynnwys agored? Er enghraifft, yma'n y Caffi, nodwyd fod Cymru Fyw wedi trosglwyddo nifer oerthyglau ar grwpiau pop Cymraeg - ar drwydded agored. Gallem felly, gopio a phastio a chreu erthyglau'n hawdd. Felly hefyd llawer o stwff y Coleg Cymraeg (diolch i Ham) a gallwch ganfod pa erthyglau ar yr Esboniadur. Mae Cwmni Recordiau Sain hefyd wedi rhoi caniatad i ni uwchlwytho pob un o'r clipiau Sain sydd ganddyn nhw ar y we - ar Comin, dan drwydded agored. Mae defnyddiau parod fel hyn yn hwyluso pethau i ni olygyddion, ond efallai fod angen eu nodi mewn cynllun / Wicibrosiect, yn daclus? Mae hyn, wrth gwrs, yn ychwanegol i'r toreth o stwff mae'r LlGC eisioes wedi'i huwchlwytho. Llywelyn2000 (sgwrs) 11:43, 15 Medi 2016 (UTC)

@Rhyswynne: Galli Rhys! Dim probs! Ond cofia fod testun y BBC ychydig flynyddoedd oed bellach; er fod llawer o'r wybodaeth yn 'hanesyddol' gywir. ON - ti isio dod a'th gwestiwn i fama o'r archifdy, gan y dylai hwnnw fod wedi'i gloi mewn gwirionedd? Llywelyn2000 (sgwrs) 19:47, 25 Medi 2016 (UTC)

Grants to improve your project[golygu cod y dudalen]

Please help translate to your language:

Greetings! The Project Grants program is currently accepting proposals for funding. There is just over a week left to submit before the October 11 deadline. If you have ideas for software, offline outreach, research, online community organizing, or other projects that enhance the work of Wikimedia volunteers, start your proposal today! Please encourage others who have great ideas to apply as well. Support is available if you want help turning your idea into a grant request.

I JethroBT (WMF) (talk) 20:11, 30 Medi 2016 (UTC)

Adar via Wicidata[golygu cod y dudalen]

Mae gen i bedair erthygl a greais gydag AWB: Sïedn gên emrallt, Telor padi, Pengwin Patagonia ac Eryr brith. Mae popeth yn y rhain yn dod o Wicidata a db Cymdeithas Edward Llwyd drwy AWB. Robin (Llywelyn2000) fu'n addasu hwnnw a sicrhau ei fod ar Wicidata. Os ydy'r 4 erthygl yma'n dderbyniol, yna mi wnaf gweddill yr adar. Mae chydig o bethau anarferol yn y codio (ee mae'r categoriau yn llorweddol yn y côd yn hytrach nag ar i lawr) ond dyw hyny ddim yn gwneud unrhyw ots i sut mae'n edrych i'r darllenydd. Wedi gorfen y rhain mi af ati o orffen yr erthyglau ar y teuluoedd unigol a chreu categori i bob teulu. Sylwadau os gwelwch yn dda? Neu cewch ddweud: "Cytuno! Ffwr a ti!" Os na chlywai ddim mewn rhyw dridiau mi gymrai nad oes problem. Bydd yn ychwanegiad pur werhfawr a dweud y gwir! Cell Danwydd (sgwrs) 13:34, 3 Hydref 2016 (UTC)

Ymlaen! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:13, 5 Hydref 2016 (UTC)
Wedi cychwyn. Mae Aderyn haul tinfelyn yn enhraifft. Fe fydd Lysteria yn diweddaru'r tabl yn otomatig ac fe ddaw'r llun a'r cysylltiad gyda ieithoedd eraill drwy rywun ar Wicidata cyn bo hir. Cell Danwydd (sgwrs) 09:14, 5 Hydref 2016 (UTC)
Na, paid a phoeni! Dwi'n meddwl mai un broblem oedd efo'r UT8: yr acen grom ar yw w (ŵ) yn gŵydd, mewn tua 7 ohonyn nhw. Maen nhw wedi'u cywiro bellach. Mae Corhedydd y Camerŵn a'r gweddill i'w gweld yn hollol iawn. Llywelyn2000 (sgwrs) 12:01, 5 Hydref 2016 (UTC)