Ivor Novello

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ivor Novello
Ivornovello.jpg
Ivor Novello
Ganwyd David Ivor Davies
15 Ionawr 1893(1893-01-15)
Caerdydd, Cymru
Bu farw 6 Mawrth 1951(1951-03-06) (58 oed)
Llundain, Lloegr
Cenedligrwydd Cymru Cymro
Yn enwog am Glamorous Nights, The Bohemian Girl
Galwedigaeth Cyfansoddwr, dramodydd, actor
Gweithgar 1914–1951

Roedd David Ivor Davies neu Ivor Novello (15 Ionawr 18936 Mawrth 1951) yn ddifyrrwr, yn ddramodydd, yn actor ac yn fab i David Davies a "Madame" Clara Novello Davies, cantores enwog. Fe'i ganed yn Llwyn-yr-Eos, Heol y Bontfaen, Dwyrain Caerdydd. Bu farw yn Theatr y Strand, Llundain.

Cyfansoddodd Novello y gân enwog, "Keep the Home Fires Burning" yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Cafodd lwyddiant gyda sioeau megis Glamorous Nights a King's Rhapsody.

Pan oedd yn 12 oed, enillodd am ganu dan 12 oed yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaernarfon, 1906. Ond cafodd ei garcharu yn ystod yr Ail Ryfel Byd am ddefnyddio petrol anghyfreithlon, profiad a effeithiwyd arno'n fawr. Roedd Novello yn ddyn hoyw agored a hapus. Am 35 mlynedd roedd yn gymar i'r actor Bobbie Andrews, dywedir iddo fod yn gariad i Siegfried Sassoon, y bardd o Sais.[1] Am flynyddoedd llawer bu'n byw yn Littlewick Green yn Nwyrain Swydd Berks .

Ffilmiau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • The Call of the Blood (L'Appel du Sang) - 1919
  • Miarka: The Daughter of the Bear (Miarka, Fille de L'Ourse) - 1920
  • Carnival - 1922
  • The Bohemian Girl - 1922
  • The Man Without Desire - 1923
  • The White Rose - 1923
  • Bonnie Prince Charlie - 1923
  • The Rat - 1925
  • The Triumph of the Rat - 1926
  • The Lodger: A Story of the London Fog - (1927)
  • Downhill - 1927
  • The Vortex - 1928
  • The Constant Nymph - 1928
  • The Gallant Hussar - 1928
  • The South Sea Bubble - 1928
  • The Return of the Rat - 1928
  • Symphony in Two Flats - 1930
  • Once a Lady - 1931
  • The Phantom Fiend - 1932
  • I Lived With You - 1933
  • Sleeping Car - 1933
  • Autumn Crocus - 1934

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Glamorous Night (1935)
  • Careless Rapture (1936)
  • The Dancing Years (1939)
  • Perchance to Dream (1945)
  • King's Rhapsody (1949)
Llwyn yr Eos

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gweler 'Rhywbeth Bob Dydd' gan Hafina Clwyd; cyhoeddwyd 2008; tud 19 - 21.