Claude Monet
Claude Monet | |
---|---|
Ffoto o Monet yn 1899 |
|
Ganwyd | 14 Tachwedd 1840 Paris |
Bu farw | 5 Rhagfyr 1926 Giverny |
Yn enwog am | Argraffiadaeth (Impressionnisme) |
Galwedigaeth | Arlunydd |
- Mae Monet yn ailgyfeirio i'r dudalen hon. Ni ddylid cymysgu rhwng Monet a Manet, paentiwr arall o'r un cyfnod.
Arlunydd o Ffrainc oedd Claude Oscar Monet (14 Tachwedd 1840 - 5 Rhagfyr 1926), yn sylfaenydd y mudiad celfyddydol Argraffiadaeth (Impressionnisme), Ei baentiad Impression: Soleil levant ('Argraff: Yr haul yn codi') a roddodd yr enw i'r mudiad arloesol newydd.[1][2] Roedd ei uchelgais o ddogfenni tirwedd Ffrainc yn ei arwain i beintio'r un olygfa sawl tro er mwyn dal newidiadau yn y golau wrth i'r tymhorau pasio. O 1883 ymlaen bu'n byw yn Giverny, ble y prynodd dŷ ac aeth ati i godi gerddi yn cynnwys pyllau lili a ddaeth yn rhai o'i ddarluniau enwocaf.
Monet ac Argraffiadaeth (Impressionnisme)[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn siomedig ag agwedd ceidwadol yr Académie des Beaux-Arts ac eu hymateb negyddol i'w gwaith, trefnodd Monet a grŵp o arlunwyr o'r un meddwl arddangosfa eu hunain ym 1874. Roedd yr arddangosfa yn agored i unrhyw un oedd yn fodlon talu 60 ffranc ac yn cymeradwyo dim ymyrraeth o banel o ddetholwyr i wrthod unrhyw waith.
Fe arddangoswyd cyfanswm o 165 o weithiau, yn cynnwys rhai gan Renoir, Degas, Pissarro a Cézanne.
Galwyd y grŵp yn Impressionnistes. Eu nod oedd dylunio'r byd o'u cwmpas mewn modd mwy rhydd a ffres na chaniataodd gonfensiynau academaidd y cyfnod, gan ddal yr "argraff" cyffredinol o olygfa a welir gan y llygaid, gyda phwyslais ar effeithiau lliw a golau. Roedd peintio tirluniau yn yr awyr agored yn un o brif nodweddion y symudiad, yn ogystal â golygfeydd o fywyd dinesig bob dydd. [3]
-
Aber y Seine yn Honfleur, 1865, Sefydliad Norton Simon, Pasadena; yn dangos dylanwad arddull peintio morwrol Iseldireg.[4]
-
Merch yn yr ardd, 1866–1867, Musée d'Orsay, Paris.[5]
-
Jardin à Sainte-Adresse, 1867, Amgueddfa Metropolitan, Efrog Newydd.[6]
-
Y Cinio, 1868, Städel, yn dangos Camille Doncieux a Jean Monet, a wrthodwyd gan Salon Paris, 1870, ond gafodd ei gynnwys yn yr arddangosfa gyntaf Impressionnisme yn 1874[7]
-
La Grenouillére 1869, Amgueddfa Gelf, Efrog Newydd; darlun bach 'plein-air' (yn yr awyr agored) gyda strôc frwsh llydan o liw cryf.[8]
-
Le port de Trouville (Morglawdd Trouville, ar lanw isel), 1870, Amgueddfa Gelf Gain, Budapest.[9]
-
La plage de Trouville, 1870, National Gallery, Llundain. Y person ar y chwith gall fod yn Camille, ar y dde gwraig Eugène Boudin[10]
Ym 1876 symudodd teulu Monet i bentref Vétheuil yn rhannu tŷ ag Ernest Hoschedé, dyn busnes cyfoethog ac yn gefnogwr y celfyddydau. Ym 1879 bu farw ei wraig Camille o ganser yn 32 mlwydd oed.[11][12] Yn y cyfnod anodd wedi colled Camille peintiodd Monet rhai o ddarluniau gorau yn darganfod Giverny yn Normandi ym 1883.
Yn 1877 gwnaeth gyfres o ddarluniau o orsaf drenau St-Lazare, Paris, yn astudio ager a mŵg a'r ffordd a'u heffaith ar liw a thryloywder. Roedd yn gallu defnyddio’r astudiaethau hyn yn ddiweddarach ar gyfer effeithiau niwl a glaw.[13][14]
Prynodd dŷ yn Giverny ar gyfer ei deulu mawr, gydag ysgubor ar gyfer ei stiwdio. Wrth i gyfoeth Monet dyfu fe ehangodd y gerddi gan gyflogi 7 o arddwyr a phensaer.[15] Ym 1993 prynodd ragor o diroedd yn cynnwys dolydd gwlyb ble'r adeiladodd lynnoedd gyda lilis a phont Japaneaidd. Treuliodd yr 20 mlynedd nesaf yn gwneud cyfres o gynfasau mawrion o'r golygfeydd hyn gan astudio'r golau a'r adlewyrchiadau a ddaeth yn rhai o'i weithiau enwocaf.[16] Mae'r tŷ yn Giverny bellach yn agored i'r cyhoedd ac yn denu miloedd o dwristiaid o bob cwr o'r byd.
Peintiodd Monet yn uniongyrchol ar gynfasau mawrion yn yr awyr agored, a'u gorffen yn ei stiwdio yn nes ymlaen. Yn ei ymgais i well gyfleu natur fe wrthododd gonfensiynau Ewropeaidd y cyfnod ynglŷn â chyfansoddi, lliw a phersbectif. Fe'i dylanwadwyd gan brintiau bloc pren Japaneaidd, ei drefniadau anghymesur o elfennau yn pwysleisio eu harwynebedd dau ddimensiwn gan hepgor persbectif llinol. Llwyddodd greu lliwiau llachar ysgeifn gan ychwanegu amrywiaeth o dôn i'r cysgodion, ac yn paratoi cefndir y cynfas gyda lliwiau golau yn lle'r cefndiroedd tywyll a oedd yn draddodiadol mewn tirluniau.
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- Howard, Michael The Treasures of Monet. (Musée Marmottan Monet, Paris, 2007).
- Kendall, Richard Monet by Himself, (Macdonald & Co 1989, updated Time Warner Books 2004), ISBN 0-316-72801-2
- Monet's years at Giverny: Beyond Impressionism. New York: The Metropolitan Museum of Art. 1978. ISBN 978-0-8109-1336-3. External link in
|title=
(help) (full text PDF available) - Stuckey, Charles F., Monet, a retrospective, Bay Books, (1985) ISBN 0-85835-905-7
- Tucker, Paul Hayes, Monet in the '90s. (Museum of Fine Arts in association with Yale University Press, New Haven and London, 1989).
- Tucker, Paul Hayes Claude Monet: Life and Art Amilcare Pizzi, Italy 1995 ISBN 0-300-06298-2
- Tucker, Paul Hayes, Monet in the 20th century. (Royal Academy of Arts]], London, Museum of Fine Arts, Boston and Yale University press. 1998).
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- Bywgraffiad Claude Monet, intermonet.com
- Claude Monet darluniau, cyfryngau & llinell amser rhyngweithiol, mootnotes.com
- Claude Monet: bywyd a darluniau
- Monet yn Giverny
- Gwaith Claude Monet
- Claude Monet yn y Guggenheim
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ House, John, et al.: Monet in the 20th century, page 2, Yale University Press, 1998.
- ↑ "Claude MONET biography". Giverny.org. 2 December 2009. http://giverny.org/monet/biograph/. Adalwyd 5 June 2012.
- ↑ From John Rewald, The History of Impressionism
- ↑ Norton Simon Museum
- ↑ Musée d'Orsay
- ↑ Metropolitan Museum of Art
- ↑ Städel
- ↑ La Grenouillére at the Metropolitan Museum of Art
- ↑ Le port de Trouville, Museum of Fine Arts, Budapest
- ↑ La plage de Trouville, 1870, National Gallery, London
- ↑ "La Japonaise". artelino. http://www.artelino.com/articles/la_japonaise.asp. Adalwyd 5 June 2012.
- ↑ http://members.aol.com/wwjohnston/camille.htm
- ↑ "Monet's Village". Giverny. 24 February 2009. http://giverny.org/giverny/. Adalwyd 5 June 2012.
- ↑ Charles Merrill Mount, Monet a biography, Simon and Schuster publisher, copyright 1966, p326.
- ↑ Garrett, Robert (20 May 2007). "Monet's gardens a draw to Giverny and to his art". Globe Correspondents. http://www.boston.com/travel/getaways/europe/articles/2007/05/20/monets_gardens_a_draw_to_giverny_and_to_his_art/. Adalwyd 13 October 2008.
- ↑ Art Gallery of Victoria, Monet's Garden, (retrieved 16 December 2013)
|