Weimar

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Goethe a Schiller, o flaen y Deutsches Nationaltheater

Dinas yn nhalaith ffederal Thüringen yn yr Almaen yw Weimar. Saif i'r gogledd o'r Thüringer Wald, i'r dwyrain o Erfurt, ac i'r de-orllewin o Halle a Leipzig. Mae'r boblogaeth tua 64,000.

Ceir y cofnod cyntaf am y ddinas yn 899. Yn ddiweddarach, daeth yn brifddinas Dugiaeth Saxe-Weimar. Bu Martin Luther a Johann Sebastian Bach yn byw yma, yna tua diwedd y 18fed ganrif symudodd Goethe yma. Daeth y ddinas yn ganolfan ddiwylliannol yr Almaen; ymhlith y trigolion enwog mae Schiller, Herder, Hummel, Liszt, Friedrich Nietzsche ac Arthur Schopenhauer.

Rhoddodd y ddinas ei henw i Weriniaeth Weimar, y cyfnod rhwng 1919 a 1933 yn hanes yr Almaen. Daw'r enw oherwydd mai yma y drafftiwyd y cyfansoddiad ar gyfer y weriniaeth newydd, gan fod Berlin yn rhy beryglus ar y pryd. Weimar a Dessau oedd canolbwynt y mudiad Bauhaus.

Yn yr Ail Ryfel Byd, adeiladwyd gwersyll crynhoi yn Buchenwald, 8 km o Weimar.