Hindi

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Prif iaith swyddogol India yw Hindi neu Hindeg (Devanāgarī: हिन्दी neu हिंदी). (Mae Saesneg yn ail iaith swyddogol.) Mae'n aelod o'r gangen Indo-Iraneg o'r teulu ieithyddol Indo-Ewropeaidd.

Siaredir Hindi fel mamiaith gan 180 miliwn o bobl yng ngogledd a chanolbarth India, tua 40% o boblogaeth India. Mae tua 25% o boblogaeth India yn medru Hindi fel ail iaith. Mae siaradwyr i'w cael hefyd yn Nepal, Ffiji, Mauritius, Lloegr, Trinidad a Tobago, Gaiana, Suriname, a llawer o wledydd eraill. Y bumed iaith fwyaf yn y byd ydyw o ran nifer o siaradwyr.

Mae'n perthyn yn agos i Wrdw, a ddatblygodd allan ohoni gyda dylanwad yr iaith Berseg yn y cyfnod modern. Ond ysgrifennir Hindi gan amlaf gydag ysgrifen Devanāgarī, ac Wrdw gyda'r wyddor Arabeg.

Llenyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae llenyddiaeth gyfoethog yn Hindi, yn ymestyn yn ôl i'r 12fed ganrif, ac yn adeiladu ar lenyddiaeth Sanscrit. Yn y llenyddiaeth draddodiadol, mae dylanwadau crefyddol cryf, a cheir lawer o straeon o hud a lledrith a thylwyth teg. Er hynny, mae llenyddiaeth fodern, realaidd, yn ogystal. Mae Munshi Premchand (1880-1936) yn un o'r nofelyddion enwocaf yn yr iaith.

Erbyn heddiw mae diwydiant ffilmiau egnïol yn Hindi, y cyfeirir ati yn anffurfiol fel "Bollywood", a'i ganolfan ym Mumbai.

Wikipedia
Argraffiad Hindi Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd


Globe of letters.svg Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.