Concorde

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Awyren jet fasnachol uwchsonig oedd Aérospatiale-BAC Concorde. Cafodd ei chreu fel rhan o gytundeb llywodraethol Eingl-Ffrengig, gan y cwmnïau cynhyrchu Aérospatiale a Chorfforaeth British Airways. Hedfanodd am y tro cyntaf yn 1969, a dechreuodd wasanaethu'n fasnachol yn 1976. Parhaodd ei hediadau masnachol am 27 o flynyddoedd.

Arferai Concorde hedfan yn rheolaidd ar draws yr Iwerydd o faes awyr Heathrow, Llundain (British Airways) a Maes Awyr Charles de Gaulle, Paris, (Air France) i Maes Awyr Rhyngwladol John F. Kennedy a Maes Awyr Rhyngwladol Dulles, Washington. Elwodd y cwmni o'r ffaith fod yr awyren yn hedfan ar gyflymder na welwyd o'r blaen, gan gyrraedd y cyrchfan mewn llai na hanner yr amser ag y cymerai i gwmnïau awyrennau eraill.

Am mai 20 awyren yn unig a adeiladwyd, roedd datblygiad Concorde yn golled ariannol sylweddol, ac fe roddodd llywodraethau Prydain a Ffrainc gymorthdaliadau i British Airways ac Air Francs i'w prynu. O ganlyniad i unig ddamwain awyr Concorde ar 35 Gorffennaf 2000 ynghyd â ffactorau eraill, cyhoeddwyd hediad olaf yr awyren ar 26 Tachwedd 2003.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
Air template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am awyrennu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.