Ymaelodi

Mae croeso i bawb ymaelodi â Chymdeithas yr Iaith. Gelli di naill ai dalu yn flynyddol i ymaelodi â'r Gymdeithas trwy brynu aelodaeth yma, neu gelli di dalu aelodaeth trwy Archeb Banc.

Drwy'r Post

Os oes yn well gen ti i ymaelodi drwy'r post, gelli di argraffu'r ffurflen aelodaeth (pdf) yma.

Er mwyn sicrhau bod ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith yn rhai llwyddiannus ac effeithiol, mae angen i gymaint o bobl ag sy'n bosib gyfrannu at y gwaith. Wrth gwrs, mae sawl gwahanol ffordd o wneud hyn. Gellir helpu gyda threfniadau rhai o'r prif ymgyrchoed, cyfrannu at waith rhanbarthau neu gelloedd lleol, trefnu digwyddiadau codi arian neu nosweithiau adloniant neu gynorthwyo gyda thasgiau gweinyddol megis cyfieithu, teipio neu bostio. Mae pob cyfraniad yn bwysig ac yn helpu'r mudiad i gyrraedd y nod!

Os wyt ti'n meddwl y gelli di gyfrannu mewn unrhyw fodd, noda hynny ar dy ffurflen aelodaeth. Gelli di ddarllen y nodiadau isod er mwyn gweld crynodeb o'r gwhanol bethau y gellir eu gwneud i helpu.

Cyfrannu at:

  • Gwaith Ymgyrchoedd Canolog
    • Deddf Iaith Newydd
    • Cymunedau Rhydd
    • Darlledu Addysg
    • Gwreiddiwch yn y Gymuned
  • Adloniant
  • Codi Arian
  • Helpu gyda threfniadau lleol
  • Gwaith gweinyddol - cyfieithu, teipio, golygu
  • Gweithredu

Ymaelodi trwy Archeb Banc

Archebion Banc yw'r unig incwm cyson sydd gan Gymdeithas yr Iaith. Dim ond ar sail cyfraniadau sefydlog o'r fath y gallwn gynllunio yn effeithiol ar gyfer y dyfodol chyflogi staff i weithio'n llawn amser.

Beth am lenwi archeb banc i'r Gymdeithas.

£2 y mis - pris peint £5 y mis - pris 2 beint £10 y mis - pris cryno ddisg

Gellir sefydlu archeb banc ar-lein, os wyt ti wedi cofrestru i dderbyn gwasanaeth arlein gyda dy fanc. Mae HSBC, Natwest a'r Co-op yn cynnig y gwasanaeth yma, ac mae'n debygol iawn bod gweddill y banciau yn cynnig yr un gwasanaeth hefyd. Bydd angen i ti gysylltu gyda dy gyfrif arlein trwy'r dull arferol, a wedyn mynd i'r adran Archebion banc (Standing Orders).

Os wyt ti'n defnyddio'r dull yma, cofia hefyd i ddanfon dy fanylion personol atom mewn ebost (post@cymdeithas.org) fel bod modd i ni dy gofrestru fel aelod. Gelli di weld y manylion sydd angen arnom trwy bwyso yma. Noda yn yr ebost dy fod wedi sefydlu archeb banc arlein.

Dyma'r manylion y bydd angen arnat:

Enw y cyfrif: Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Côd trefnu: 40-16-02 Rhif y Cyfrif: 81072102

Os nag wyt ti wedi cofrestru am wasanaeth arlein gyda dy fanc, pwysa yma i lawrlwytho copi pdf o'r ffurflen aelodaeth - a gwna'n siwr dy fod yn llenwi'r adran Archebion Banc. Gelli di wedyn ei argraffu a'i ddanfon at Swyddfa'r Gymdeithas. Cofia taw hwn yw unig incwm sefydlog y Gymdeithas ac felly byddwn yn gwerthfawrogi'n fawr os gelli di argraffu'r ffurflen a'i ddanfon at Swyddfa'r Gymdeithas.