Y Senedd a'r Cyngor

Y Senedd yw'r pwyllgor sy'n gyfrifol am oruchwilio holl waith Cymdeithas yr Iaith.

Bob blwyddyn, yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas ym mis Hydref, fe etholir swyddogion a fydd yn gwasanaethu fel aelodau o'r Senedd am gyfnod o flwyddyn. Mae'r Swyddogion hyn yn gyfrifol am wahanol agweddau o waith y Gymdeithas megis trefniadau'r ymgyrchoedd canolog, gwaith gweinyddol neu ddigwyddiadau Codi Arian ac Adloniant. Caiff y Swyddogion sydd yn gyfrifol am ranbarthau'r Gymdeithas eu hethol yng Nghyfarfodydd blynyddol y rhanbarthau sy'n cael eu cynnal ym mis Ebrill.

Mae hawl gan unrhyw aelod o Gymdeithas yr Iaith i enwebu unrhyw aelod arall i wasanaethu fel aelod o'r Senedd. Pwysa yma er mwyn gweld pwy yw aelodau'r Senedd am eleni.

Cynhelir cyfarfod Senedd ar ddydd Sadwrn cynta'r mis (fel arfer). Mae pob cyfarfod Senedd yn rhoi blaenoriaeth i agwedd arbennig o waith y Gymdeithas - naill ai materion ymgyrchoedd, gwaith y rhanbarthau neu faterion gweinyddol.

Mae hawl gan unrhywun o aelodau Cymdeithas yr Iaith i fynychu cyfarfodydd y Senedd fel 'sylwebydd'.

Aelodau'r Senedd 2013 - 2014

Cadeirydd Robin Farrar

Cyfrifol am reoli'r Gymdeithas rhwng cyfarfodydd senedd

Is-Gadeirdd Ymgyrchu Lisa Erin Cyfrifol am sicrhau fod y Grwpiau Ymgychu'n weithredol
Is-Gadeirydd Gweinyddol Sel Jones

Cyfrifol am ein gweinyddiaeth ac yn ateb i'r senedd ar ran y Trysorydd, Swyddog Codi Arian, Swyddog Mentrau Masnachol

Is-gadeirydd Cyfathrebu Sioned Haf

Cyfrifol am beiriant cyfathrebu'r Gymdeithas ac yn ateb i'r senedd ar ran y Swyddog Gwefan a Dylunio, a Golygydd y Tafod.

Swyddog Adloniant Alun Reynolds Cyfrifol am greu bas-data o wybodaeth a chanllawiau ar gyfer Pwyllgorau Adloniant mewn rhanbarthau ar gyfer digwyddiadau arbennig
Swyddog Ymgyrchu ar y We David Wyn Williams Cyfrifol am hyrwyddo ein hymgyrchoedd ar-lein
Swyddog Aelodaeth Gwyn Sion Ifan Cyfrifol am ein system aelodaeth a'n hymgyrchoedd aelodaeth
Cadeirydd Grwp Cymunedau Cynaliadwy Toni Schiavone Cyfrifol am gadeirio cyfarfodydd grwp Cymunedau Cynaliadwy a llefaru ar ei ran; arwain ar ymgyrchoedd ynglyn a thai, cynllunio a materion eraill sydd yn effeithio ar gymunedau Cymraeg eu hiaith
Is-Gadeirydd Grwp Cymunedau Cynaliadwy Cen Llwyd Cyfrifol am gefnogi y Cadeirydd, dirprwyo iddo a hwyluso gwaith y grwp
Cadeirydd Grwp Dyfodol Digidol Greg Bevan Cyfrifol am gadeirio cyfarfodydd y grwp Digidol a llefaru ar ei ran; arwain ar ymgyrchoedd ynglyn â materion darlledu a phresenoldeb y Gymraeg arlein a materion eraill sydd yn effeithio ar y Gymraeg yn y byd digidol
Is-Gadeirdd Grwp Dyfodol Digidol Aled Powell Cyfrifol am gefnogi y Cadeirydd, dirprwyo iddo a hwyluso gwaith y grwp
Cadeirydd Grwp Hawliau Sian Howys Cyfrifol am gadeirio cyfarfodydd y grwp Hawliau a llefaru ar ei ran; arwain ar ymgyrchoedd ynglyn â mynediad at wasanaethau yn Gymraeg a statws yr iaith
Is-Gadeirydd Grwp Hawliau Jamie Bevan Cyfrifol am gefnogi y Cadeirydd, dirprwyo iddo a hwyluso gwaith y grwp
Cadeirydd Grwp Addysg Ffred Ffransis Cyfrifol am gadeirio cyfarfodydd y grwp Addysg a llefaru ar ei ran ac arwain ar ymgyrchoedd addysg
Is-Gadeirydd Grwp Addysg Josh Parry Cyfrifol am gefnogi y Cadeirydd, dirprwyo iddo a hwyluso gwaith y grwp

 

Mae swyddogion cyflogedig a chadeiryddion/cynrychiolwyr rhanbarth hefyd yn aelodau o'r Senedd.

Y Cyngor

Mae Cyngor y Gymdeithas yn cynnwys holl aelodau senedd y Gymdeithas ynghyd a dau gynrychiolydd o bob rhanbarth, ac yn cyfarfod deirgwaith y flwyddyn ar adegau i'w penodi gan y Senedd.

Mae aelodaeth y Cyngor yn cynnwys: (i) aelodau'r Senedd; (ii) dau gynrychiolydd o bob rhanbarth; a'r (iii) swyddogion ychwanegol canlynol:

Aelodau'r Cyngor 2013 - 2014

Swyddog Mentrau Masnachol Alaw Griffiths Cyfrifol am nwyddau a werthir gan y Gymdeithas
Golygydd y Tafod Llinos Roberts Golygydd Cylchgrawn y Gymdeithas
Trysorydd Danny Grehan Cyfrifol am gyfrifon y Gymdeithas
Swyddog Codi Arian Gwag Cyfrifol am strategaeth codi arian y Gymdeithas
Swyddog Gwefan a Dylunio Gwag Cyfrifol am drefnu gwaith dylunio'r Gymdeithas, gan gynnwys y Tafod

 

Dyddiadau cyfarfodydd y Senedd a'r Cyngor 

6ed Medi 2014 Cyfarfod Senedd Canolfan Merched y Wawr, Aberystwyth
4ydd Hydref 2014 Cyfarfod Cyffredinol Pwllheli

 

Cyfansoddiad 2006 Cymdeithas yr Iaith Gymraeg