Mae’r we, radio, teledu, papurau newydd a phlatfformiau aml-gyfrwng yn hollol bwysig i’n hoes ni heddiw, os nad yn bwysicach nag y fuont erioed – dyma’n dulliau cyfathrebu a'n cymunedau rhithiol.
Ond, ble mae’r Gymraeg yn y chwyldro digidol?
- Os yw’r Gymraeg yn iaith fyw ac i ffynnu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol mae’n rhaid i ni ei defnyddio ar draws pob cyfrwng, rhaid ei wneud yn briod iaith cyfryngau digidol yng Nghymru.
- Mae prinder cynnwys Cymraeg ar y we yn fater o ofid i nifer fawr, os nad yw’r Gymraeg yn weledol ac yn addasu i’r oes digidol, pa fath o ddyfodol fydd iddi?
- Rydym wedi colli cyfle dro ar ôl tro gan adael i gwmnïau masnachol brynu gorsafoedd radio lleol, gan ddisodli a dileu llawer o ddarlledu Cymraeg a rhoi iddi elfen docenistaidd tu allan i’r orau brig yn unig.
Dyfodol S4C
Rydym wedi gweld yn ddiweddar na allwn gymryd ein unig sianel deledu Gymraeg yn ganiataol, ein sianel ni, ein cyfrwng ni i fynegi’n hunain. Rhaid i’r sianel gael sicrwydd ariannol ac annibyniaeth olygyddol.
Ond mae'n bwysig ein bod ni'n galw am newidiadau i S4C, mae ganddi gyfrifoldeb i adlewyrchu bywyd cymunedau Cymraeg ar draws Cymru gyfan ac nid dim ond darlledu addasiadau Cymraeg o raglenni a diwylliant eingl-americanaidd.
Datganoli Darlledu
Galwn fel grŵp digidol ar Lywodraeth Cymru i bwyso a galw am ddatganoli darlledu i Gymru. Credwn yn gryf bod e’n hanfodol ein bod ni â’r grym yma yng Nghymru i benderfynu dros ddyfodol ein sianel Gymraeg, ein gorsafoedd radio lleol. Rydym wedi lansio proclamasiwn sydd yn cael ei lofnodi gan amryw o bobol o bob maes yn datgan eu bod hwy’n cefnogi’n galwadau i ddatganoli darlledu i Gymru.
Am ragor o wybodaeth am ymgyrch Dyfodol Digidol y Gymdeithas e-bostiwch: greg@cymdeithas.org