Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
Mae cymunedau a fu’n gadarnleoedd traddodiadol i’r Gymraeg wedi bod o dan warchae economaidd a chymdeithasol ers degawdau. Mae mewnfudo, tueddiadau’r farchnad dai, a datblygiadau anaddas wedi sicrhau bod y farchnad dai yn aml allan o gyrraedd pobl leol.
Fel Cymdeithas, credwn bod cymunedau lle mae’r Gymraeg yn brif gyfrwng yn holl-bwysig er mwyn sicrhau dyfodol i’r Gymraeg. Credwn y dylid ystyried tai fel cartrefi ac nid fel adnodd economaidd, y dylid sicrhau bod pobl leol yn cael mynediad at y farchnad dai, ac y dylai’r farchad dai adlewyrchu cyflogau lleol.
Galwn am Ddeddf Eiddo a fydd yn mynd i’r afael a’r problemau yma. Byddai Deddf Eiddo yn rhoi rheidrwydd ar awdurdodau lleol i:
- Asesu’r angen lleol am dai.
- Sicrhau bod tai ac eiddo ar gael i bobl am rhent teg.
- Roi cymorth i brynwyr tro cyntaf, ac i gynnig cynlluniau rhan-ddeiliadaeth.
- Roi blaenoriaeth i bobl leol yn y farchnad dai.
- Gynllunio ar gyfer y gymuned, ac ar sail barn y gymuned.
- Ail-asesu caniatad cynllunio a roddwyd yn y gorffennol.
Credwn hefyd bod angen ffurfioli’r drefn o asesu effaith datblygiadau tai ar yr iaith Gymraeg.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â toni@cymdeithas.org