Addysg

Nid hawl i’w gymryd neu ymwrthod ag ef yw’r gallu i gyfathrebu’n Gymraeg, ond sgil hanfodol i bob disgybl a myfyriwr. Mae angen gwireddu hyn ar frys er mwyn sicrhau fod pobl ddisgybl yn cael y sgil hwn.

Golyga hyn sicrhau:

  • mai addysg gyflawn Gymraeg yw’r norm ar bob lefel yn syth mewn rhannau mawr o Gymru ac ni ddylid tystio fod unrhyw fyfyriwr yn y broydd hyn wedi cwblhau ei gwrs addysgol heb ddangos ei allu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Mewn ardaloedd eraill, rhaid symud tuag at y nod trwy sicrhau rhwydwaith cyflawn o ysgolion a chyrsiau Cymraeg, a chynyddol gyflwyno’r Gymraeg yn sgil addysgol hefyd mewn ysgolion eraill.

Addysg Gymraeg a Chymreig

Rhaid fod yr hyn a ddysgir trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd yn berthnasol i anghenion Cymry ifanc. Rhaid i’r cwricwlwm rymuso disgyblion gyda’r wybodaeth hanfodol am Gymru heddiw, a rhoi'r sgiliau iddynt i werthuso, ffurfio barn a dylanwadu a chreu Cymru’r dyfodol.

Rhaid i’r sefydliadau addysgol eu hunain fod yn rhan annatod o’n cymunedau a’u cryfhau at y dyfodol.

Cadwn ein Hysgolion a'n Pentrefi

Ymgyrchwn ar frys dan faner "Cadwn ein Hysgolion a'n Pentrefi". Ond rhaid datblygu’r un strategaeth hefyd ar gyfer cyd-destun trefol a chreu ysgolion aml-safle fydd yn rhan o adfywio pob cymdogaeth. Os bydd ein hysgolion yn rhan canolog o’n cymunedau, bydd modd creu cymunedau Cymraeg yn hytrach nag ysgolion Cymraeg yn unig.

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Rhaid bod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol newydd wedi’i wreiddio yng nghymunedau ac yn nyheadau ac yn anghenion pobl Cymru. Yn hytrach na bod yn “uwch-bwyllgor” rhannu grantiau, neu’n mini-goleg yn cystadlu mewn marchnad Addysg Uwch, dylai’r Coleg Cymraeg roi arweiniad i’n cenedl yn y sefydliadau, yn ein cymunedau, arlein a thrwy gydweithio ag Awdurdodau Lleol ac eraill i ymchwilio i anghenion Cymru.

Mae ymgyrchoedd addysg y Gymdeithas yn cael eu harwain gan Ffred Ffransis, cysylltwch â Ffred dros ebost: ffred@cymdeithas.org

Beth allai wneud?

Mae sawl ffordd gallwch chi helpu'r ymgyrch...

Bydd rhagor o wybodaeth yn ymddangos yn fuan.

Mehefin 29 ain - Carmel / Fron Dyffryn Nantlle

Diwrnod llawn gweithgareddau er mwyn gyrru neges i Leighton Andrews a Chyngor
Gwynedd ein bod ni'n mynnu byw. Ac i fynnu dyfodol i Ysgolion Carmel a Bronyfoel

...