Ymgyrchu dros Ysbyty Bronglais yn y Senedd
Bu sibrydion ers tro y byddai’r mater o israddio gwasanaethau mamolaeth ym Mronglais yn cael ei ailagor, a ddoe cafwyd cadarnhad fod hyn yn wir gan y Gweinidog Iechyd, sydd fel petai wedi derbyn barn Bwrdd Iechyd Hywel Dda y gallai fod achos i gael uned dan arweiniad bydwragedd yn Ysbyty Bronglais.
Mewn datganiad gweinidogol a drefnwyd ar 21 Ionawr ar wasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Llwyn Helyg, death cynigion annisgwyl gan y panel arbenigol i israddio Bronglais hefyd gyda golwg ar ganoli gwasanaethau yng Nghaerfyrddin.
Bydd pobl yng nghanolbarth Cymru yn gandryll oherwydd hyn. Ym mis Medi, dywedodd y Gweinidog wrtha i na fyddai ei adolygiad o wasanaethau mamolaeth yn Sir Benfro yn cael unrhyw effaith ar Bronglais. Pan gomisiynwyd yr adolygiad meddai,
“As far as neonatal services are concerned, the report does not re-open the issue of Bronglais hospital. The issue of services at Bronglais hospital has not been referred to me by the community health council because it has reached an agreement with the local health board on the future of services at that hospital. Nothing in what I have said today should be taken as casting any doubt on that agreement for opening up an issue that has not been referred to me for consideration.”
Pan holais ef ddoe, dywedodd y Gweinidog y byddai unrhyw benderfyniad terfynol yn cael ei wneud ar ol canlyniad yr adolygiad i ddyfodol tymor hir y Gwasanaeth Iechyd yng nghanolbarth Cymru , ac y byddai unrhyw newid yn dibynnu ar drefniadau gwell ar gyfer trosglwyddo mamau yn gyflym mewn hofrennydd. Ond prin geiriau o’r fath yn tawelu ein meddyliau. Mae Bronglais yn gwasanaethu mamau beichiog r draws ardal eang – mae gwasanaeth yng Nghaerfyrddin yn annerbyniol .
Os a phan fydd y Llywodraeth yn penderfynu mai dyma’r opsiwn y maent am ei ddilyn, dylem ddisgwyl ymgynghoriad llawn. Fel arall, byddai’r Bwrdd Iechyd fod yn torri ei ganllawiau ei hun. Ni ddylai’r Gweinidog Iechyd a Bwrdd Hywel Dda fod mewn unrhyw amheuaeth y bydd pobl yn ein hardal yn ymladd i gadw gwasanaeth mamolaeth ac obstetreg priodol yn Aberystwyth .