Bywydeg
Bywydeg (neu 'fioleg') - yw'r maes gwyddonol sy'n astudio bywyd. Mae'n delio â nodweddion, dosbarthiad, ac ymddygiad organebau, sut mae rhywogaethau'n dod i fodolaeth, a'r berthynas sydd ganddynt a'i gilydd ac efo'r amgylchedd.
Mae bioleg yn cwmpasu sbectrwm llydan o feysydd academaidd sy'n astudio ac archwilio pob rhan o natur.
Botaneg yw'r astudiaeth o blanhigion, Sŵoleg yw'r astudiaeth oanifeiliaid ac Anthropoleg yw'r adran o fioleg sy'n astudio bodau dynol.
Ar raddfa moleciwlaidd, astudir bywyd o fewn y pynciau: bioleg foleciwlaidd, biocemeg a geneteg foleciwlaidd.
Ar y lefel nesaf, sef y gell ceir: bioleg cell
Ar raddfeydd amlgellog, daw'r dosbarthiadau canlynol: ffisioleg, anatomeg a histoleg.
Mae bioleg ddatblygiadol yn astudio bywyd ar lefel datblygiad organeb unigol sef ontogenesis.
Yn symud i fyny'r raddfa i fwy nag un organeb, mae: geneteg sef yr astudiaeth o sut mae etifeddeg yn gweithio rhwng rhiant ac epil.
Mae etholeg yn astudio ymddygiad grŵp mwy nag un unigolyn a geneteg poblogaeth yn edrych ar yr holl boblogaeth. Mae systemateg yn astudio'r raddfa aml-rhywogaeth o linachau.
Astudir poblogaethau cyd-ddibynnol a'u cynefinoedd dan yr enwau: ecoleg a bioleg esblygiadol.
Maes dyfaliadol newydd yw: estronfioleg, sy'n archwilio i'r tebygolrwydd o fywyd y tu hwnt i'r Ddaear.
Dosbarthiad bywyd[golygu]
Gelwir y system dosbarthiad dominyddol yn 'Tacsonomeg Linnaeus', sy'n cynnwys rhenciau ac enwau deuenwol. Caiff sut enwir organebau ei reoli gan gytundebau rhyngwladol megis Cod Ryngwladol Cyfundrefn Enwau Botanegol (ICBN), Cod Ryngwladol Cyfundrefn Enwau Sŵolegol (ICON), a Chod Ryngwladol Cyfundrefn Enwau Bacteria (ICNB). Trwy ddosbarthiad biolegol gallwn weld sut mae anifeiliaid wedi esblygu ac addasu i'w cynefinoedd.
Pethau byw[golygu]
Hanes[golygu]
Defnyddiwyd y term (neu derm tebyg) am y tro cyntaf gan ddau wyddonydd: Karl Friedrich Burdach (1800) a Gottfried Reinhold Treviranus (Biologie oder Philosophie der lebenden Natur, 1802), ac yn annibynol tua'r un adeg gan Jean-Baptiste Lamarck (Hydrogéologie, 1802).[1][2]
Gwreiddyn y gair yw'r Groeg: βίος|βίος ('bios' neu 'bywyd'.
Tarddiad y pwnc (a sefydlwyd yn y 19eg ganrif, mewn gwirionedd, oedd meddygaeth traddodiadol a'r astudiaeth o natur sy'n tarddu o Galen ac Aristotle a addaswyd wedyn gan ffisegwyr Mwslemaidd megis al-Jahiz ac Avenzoar. Yn ystod yr Oes Aur Ewropeaidd y ddau gymhelliad mwyaf oedd y chwant am wybodaeth a'r darganfyddiadau mawr ym maes anifeiliaid gwahanol, prin a ffosiliau gan eu dosbarthu mewn modd rhesymegol.
Ymhlith y cewri byd-eang o Gymru mae:
- Syr Richard Owen, (1804–1892) swolegydd a thad y gair 'deinosor'
- John Gwyn Jeffreys, (1809–1885), molwsgiaid
- Thomas James Jenkin, (1885–1965), bridiwr planhigion ac Athro Botaneg
- Steve Jones, (ganed 1944), biolegydd, arbenigwr mewn genynau
- Yr Athro Jean Olwen Thomas, (ganwyd 1942) biocemegydd
- Syr Reginald George Stapledon, (1882–1960), gwyddonydd amaethyddol
- Alfred Russel Wallace, (1823–1913), biolegydd
[golygu]
Cysyniadau Allweddol Bioleg[golygu]
Mae prif ddarganfyddiadau bioleg yn cynnwys:
Cyfeiriadau[golygu]
Anatomeg · Astrobioleg · Biocemeg · Bioffiseg · Biostadegau · Botaneg · Bioleg cell · Chronobioleg · Bioleg cadwraeth · Bioleg datblygedig · Ecoleg · Epidemioleg · Bioleg Esblygiadol · Geneteg · Genomeg · Bioleg dynol · Imiwnoleg · Bioleg morol · Microbioleg · Bioleg molecylaidd · Niwrogwyddoniaeth · Maethiad · Tarddiad bywyd · Paleonoleg · Parasitoleg · Patholeg · Ffisioleg · Bioleg systemau · Tacsonomeg alffa · Swoleg
Bioleg · Cemeg · Ecoleg · Ffiseg · Gwyddorau daear · Seryddiaeth