Opiwm

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Tyfu opiwm yn ardal Malwa, gorllewin India

Mae opiwm yn gyffur analgesaidd narcotig a geir o hadau anaeddfed y pabi opiwm (Papaver somniferum L. neu paeoniflorum).

Mae tyfu cnydau opiwm yn bwysig mewn rhai ardaloedd gwledig yn ne Asia ers canrifoedd lawer. Mae canran uchel iawn o opiwm y byd yn dod o Affganistan, er enghraifft. Mae cnydau sylweddol yn cael eu tyfu ym Mhacistan, y Triongl Aur yn Ne-ddwyrain Asia (yn arbennig ym Myanmar), Colombia a Mecsico hefyd.

Defnyddir y cyffur am resymau meddygol ac fel cyffur hamdden. Fel cyffur naturiol roedd yn rhan o ddiwylliant de a dwyrain Asia am ganrifoedd, gan amlaf yn cael ei ysmygu neu ei fwyta i gael effaith. Roedd hefyd yn cael ei ddefnyddio'n gyfreithlon yn Ewrop a gogledd America ac roedd yn gyffur ffasiynol iawn yn y 18fed ganrif. Ymhlith ei ddefnyddwyr enwocaf mae De Quincey, Tennyson, Iolo Morganwg ac Edgar Allan Poe. Ond erbyn heddiw mae'n cael ei brosesu mewn ffatrïoedd anghyfreithlon i gynhyrchu heroin - cyffur cryfach o lawer - ac wedyn yn cael allforio'n ddirgel.