Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi fod Jamie Bevan, a garcharwyd am 35 niwrnod Ddydd Llun gan Ynadon Merthyr Tudful, wedi parhau ei frwydr dros gyfiawnder i'r Gymraeg tu fewn i'r carchar. Mae wedi colli nifer o'i hawliau fel carcharor gan nad yw wedi bod yn fodlon arwyddo ffurflenni uniaith Saesneg. Mae'n amlwg nad oes gan Garchar Caerdydd fel sefydliad cyhoeddus unrhyw ddarpariaeth Gymraeg, ac mae nifer o swyddogion yn ddilornus o'r iaith.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi herio'r Comisiynydd Iaith, Meri Huws, a'r Gweinidog dros y Gymraeg Leighton Andrews i weithredu'n syth i unioni'r cam a mynnu fod llywodraethwyr Carchar Caerdydd yn parchu'r Gymraeg.
Er i Gomisiynydd y Gymraeg ddweud y byddai yn sicrhau y gallai Jamie Bevan defnyddio'r ffôn, ers iddo ffonio wedi cyrraedd nid yw ei deulu wedi cael galwad ffôn ganddo o hyd. Mae hyn yn destun pryder iddyn nhw fel teulu.
Meddai llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Mae carchardai Cymru yn gwasanaethu Cymry Cymraeg, dylai gwasanaethau Cymraeg fod ar gael felly i unrhyw un sydd yn dymuno gwneud defnydd ohonynt. Daw'r gwyn yma ar ran holl garcharorion Cymraeg Cymru. Ddylai neb orfod gofyn am y pethau hyn - ac yn sicr ddylai neb fod yn colli allan ar bethau sylfaenol fel dewis bwyd a defnydd o gyfleusterau. Nid yw'r carchar na'i swyddogion yn dangos unrhyw barch tuag at Jamie, carcharorion Cymraeg eraill, na'r Gymraeg.
"Er ein bod wedi ennill tir o ran y Gymraeg nid yw sefydliadau na chyrff yn cymryd y Gymraeg o ddifrif o hyd. Rydym yn gweld hynny bob dydd wrth orfod gofyn dro ar ôl tro am ohebiaeth neu wasanaeth Cymraeg. Os am gefnogi safiad Jamie, peidiwch derbyn gohebiaeth uniaith Saesneg, yn hytrach, dychwelwch e yn syth."
"Mae Jamie wedi gwneud safiad ac yn dilyn esiampl nifer o bobl eraill, gan gynnwys Eileen Beasley a fu farw dros y penwythnos. Mae'n dal i wneud safiad oddi fewn i'r carchar ond dim ond hyn a hyn all Jamie wneud o'i gell felly mae'n bryd nawr i sawl sydd a'r grym i allu i wneud safiad dros Jamie a'r holl garcharorion Cymraeg yng Nghymru."
Anfonwch neges o gefnogaeth iddo trwy'r post:
A9459CFBEVAN
Carchar Caerdydd
HMP Caerdydd
1 Ffordd Knox
CAERDYDD
CF24 0UG
16 Awst 2012
|
|