tafod.jpg hafan cymdeithas.org . pwysig-hannercant.jpg
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Dyfodol Digidol
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Hanner Cant
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Comisiynydd y Gymraeg - pryder am ei hannibyniaeth

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i bryderon Meri Huws am ei hannibyniaeth o'r Llywodraeth.

Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"'Dyn ni'n cytuno'n llwyr gyda phryderon y Comisiynydd am ei hannibyniaeth. Mae'n bwynt rydyn ni wedi ei godi gyda'r Gweinidog Leighton Andrews yn barod, ac yn bwynt y gwnaethon ni ei godi droeon cyn pasio'r Mesur yn y Cynulliad ddwy flynedd yn ôl. Ni ddylai fod rhaid i'r Comisiynydd edrych dros ei hysgwydd yn poeni bod y Llywodraeth yn mynd i dorri ar yr arian sydd ar gael iddi. Fan lleiaf, mae angen cyllideb sefydlog pedair blynedd arni. Mae ein trafodaethau gyda Leighton Andrews wedi bod yn adeiladol ac roedd yn cymryd ein pryderon o ddifrif; rwy'n credu y byddai'n agored i'r syniad o wneud rhagor i sicrhau ei hannibyniaeth ymarferol, a gobeithiwn y bydd Aelodau Cynulliad hefyd yn pwyso ar y Gweinidog i sicrhau bod ganddi annibyniaeth ymarferol go iawn.

"Mae swydd Comisiynydd y Gymraeg yn hollbwysig i ddyfodol y Gymraeg, ei statws a chyfleoedd pobl i'w siarad. Mae mwyafrif helaeth pobl Cymru eisiau gweld y Gymraeg yn ffynnu."

17 Ebrill 2012 |

 

S4Craffu - grwp newydd i fonitro teledu Cymru

s4c-toriadau.jpgFe fydd rhagor o graffu ar y berthynas rhwng S4C a'r BBC yn dilyn y cyhoeddiad heddiw (Dydd Mawrth, Ebrill 10fed) bod cynghrair newydd yn cael ei ffurfio gan undebau a mudiadau iaith.

Daeth y grwp i fodolaeth yn sgil y bartneriaeth ymgyrchu a ffurfiwyd yn ystod y frwydr yn erbyn y toriadau i gyllideb S4C. Bwriad y grwp newydd yw i barhau i amddiffyn S4C a'i hannibyniaeth yn ogystal â goruchwylio safon y diwydiant teledu yng Nghymru. Mae aelodau y grwp yn cynnwys yr undeb BECTU, Undeb yr Ysgrifenwyr a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Fe ddywedodd Madoc Roberts o'r undeb BECTU: "Mae'r grwp newydd hwn yn gyfle i gadw llygaid barcud ar safon y diwydiant teledu yng Nghymru ac i graffu a sgriwtineiddio y berthynas rhwng S4C a'r BBC. Menter gadarnhaol yw hon, gyda'r bwriad o sicrhau fod S4C yn cynnig y ddarpariaeth gorau posibl i'w gwylwyr. Bydd y grwp yn galluogi unrhyw un sydd yn pryderu am ddyfodol darlledu yng Nghymru i godi unrhyw bryder sydd ganddynt."

Mae S4C yn wynebu toriad o dros nawdeg y cant i'w grant oddi wrth Lywodraeth Prydain, ac mae BBC Cymru yn dioddef oherwydd toriadau i wasanaethau Cymreig sy'n golygu bod 120 o swyddi mewn perygl o gael eu colli yng Nghymru yn y gorfforaeth. Ychwanegodd Madoc Roberts:"Fe wnaeth y Llywodraeth Prydain addo na fyddai'r BBC yn traflyncu S4C ac na fyddai'r berthynas rhwng y ddau ddarlledwr yn gwneud niwed i safon cynhyrchu yng Nghymru. Mae'r ddau ddarlledwr yn wynebu toriadau mawr felly rydym yn awyddus iawn i sicrhau nad yw hyn yn cael effaith negyddol ar safon y cynyrchiadau."

Llynedd fe wnaeth S4C dderbyn cytundeb oedd yn golygu mai'r BBC fyddai prif ffynhonnell ariannol y sianel.

Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg bod pryderon am y sianel o hyd: "Drwy ein hymgyrch llynedd fe wnaethom sicrhau fod rhyw fath o ddyfodol i'r sianel ond mae ei dyfodol yn ansicr o hyd. Cyfaddawd yn unig a gafwyd ar gyfer S4C felly mae'r gwaith yn parhau er mwyn sicrhau fod S4C yn parhau i gyfrannu at ddiwylliant llewyrchus a chreadigol darlledu."

10 Ebrill 2012 | Mwy...

 

Diwrnod Cyntaf Comisiynydd y Gymraeg

meri huws.jpgMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi dymuno'n dda i Meri Huws wrth iddi gychwyn ei swydd newydd fel y Comisiynydd cyntaf dros y Gymraeg.

Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Rydym yn dymuno yn dda i Meri Huws yn ei swydd. Gobeithiwn y bydd yn cymryd y cyfle i wneud y newidiadau sylweddol sydd angen er lles y Gymraeg. Gyda chonsensws traws-bleidiol ac ymysg cymdeithas sifil dros sefydlu'r swydd, mae gyda hi gyfle euraidd i ddechrau o'r newydd a sicrhau fod y sytem newydd hon yn blaenoriaethu pobl.

"Er bod nifer o wendidau yn y gyfundrefn a sefydlir yn y Mesur, gydag ewyllys da ac ymroddiad clir gan y Comisiynydd a'r Llywodraeth gallan nhw wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Gwahaniaeth a fydd yn galluogi pobl i ddefnyddio mwy o'r Gymraeg o ddydd i ddydd. Dylem weld gwelliannau sylweddol i wasanaethau ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn ogystal ag eraill megis dysgwyr a rhieni gyda phlant mewn addysg Gymraeg.

"Rydym yn disgwyl i'r Comisiynydd fod yn llais annibynnol dros y Gymraeg ac i roi buddiannau pobl Cymru yn gyntaf, yn hytrach na dilyn tueddiad yr hen Fwrdd yr Iaith, asiantaeth o'r Llywodraeth oedd yn canolbwyntio ar gyfaddawdu â busnesau a sefydliadau mawrion.

"Gobeithiwn y bydd y Comisiynydd yn sicrhau hawliau i bobl Cymru i wasanaethau Cymraeg o safon drwy osod dyletswyddau clir ac uchelgeisiol ar gyrff a chwmnïau. Mae hefyd angen iddi daclo'r camwahaniaethu yn erbyn siaradwyr Cymraeg yn y gweithle, trwy sicrhau hawliau pobl i weithio yn Gymraeg. Gobeithiwn y gallwn droi sefydliadau Cymru yn ddwyieithog yng ngwir ystyr y gair lle mae defnydd sylweddol o'r Gymraeg yn fewnol; mae hwn yn faes nad yw'r Cynulliad na'r Llywodraeth yn dangos arweiniad ar hyn o bryd."

Gwefan y Comisiynydd

2 Ebrill 2012 |

 

Pwysa yma i ddarllen mwy o newyddion...

Fideo: Tynged yr Iaith 2

20 Chwefror 2012 |

 

Pwysa yma i weld mwy o fideos...

Newyddion
Comisiynydd y Gymraeg - pryder am ei hannibyniaeth
17 Ebrill, 2012
S4Craffu - grwp newydd i fonitro teledu Cymru
10 Ebrill, 2012
Diwrnod Cyntaf Comisiynydd y Gymraeg
2 Ebrill, 2012
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod Cell Caerdydd
24 , 2012
Penwythnos Sianel 62 - Cyfarfod Cyngor
28 Ebrill, 2012
Defnyddia Dy Dafod: Cwrs Cymraeg Amgen - Blaenau Ffestiniog/Trawsfynydd
11 Mai, 2012
Gwyl Hanner Cant - Pumdeg o fandiau, dwy noson, un parti mawr
13 Gorffennaf, 2012
Dathlu 50 mlynedd o'n mudiad - Cyfarfod Cyffredinol Arbennig
15 Medi, 2012
Defnyddia Dy Dafod: Cwrs Cymraeg Amgen - Tresaith
19 Hydref, 2012
Rhagor...

nôl i'r brig