Yn dilyn trafodaeth yng nghyfarfod Senedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros y Sul, mae Cymdeithas yr Iaith wedi datgan y bydd yn cynghori aelodau i ddechrau talu eu trwydded deledu eto.
Bydd y mudiad yn parhau i ymgyrchu i sicrhau dyfodol cryf i deledu yng Nghymru drwy alw am ddatganoli darlledu i Gymru. Fe fydd aelodau o'r mudiad yn ymgynnull tu allan i'r Senedd wythnos nesaf (12:30yp, Dydd Mawrth, 8fed o Dachwedd) i bwyso ar wleidyddion ym Mae Caerdydd cyn dadl ar S4C yn y siambr.
Meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Drwy fod cynifer wedi gwrthod talu eu trwydded deledu cafwyd enillion a fydd yn cynnig rhywfaint o sicrwydd i S4C ac roedd hynny diolch i frwdfrydedd a pharodrwydd ein haelodau i ymgyrchu dros y flwyddyn ddiwethaf. Fe fu cryn drafodaeth yn ystod y cyfarfod ac fe ddaethon ni i'r casgliad i barhau i ymgyrch drwy ddulliau eraill. Rydym yn diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r ymgyrch hyd yn hyn, ac yn galw arnynt i ymuno â ni yn y cyfnod nesaf o ymgyrchu."
"Gwrthwynebwn y cytundeb a gyhoeddwyd wythnos ddiwethaf; fait accompli sydd wedi ei orfodi ar bobl Cymru heb drafodaeth ddemocrataidd o ran dyfodol S4C. Rydym yn siomedig fod awdurdod S4C wedi bod yn barod i gydweithio mewn gorfodi cytundeb o'r fath arnom."
Ychwanegodd Adam Jones, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith:
"Nid ydym yn derbyn y cytundeb annemocrataidd rhwng y BBC ac S4C sydd wedi diystyru pobl Cymru yn gyfan gwbl. Credwn yn gryf y dylai awdurdod S4C a'r BBC fod wedi hyrwyddo proses o ymgynghori gyda gwylwyr y sianel yn hytrach na phenderfynu ar eu liwt eu hunain. Mae'r cytundeb hwn yn pwysleisio'r angen i ddatganoli darlledu i Gymru fel nad yw llywodraeth Prydain a'r BBC yn Llundain, sydd wedi dangos eu bod yn deall dim am ddarlledu yng Nghymru, yn cael gwneud penderfyniadau ar hap am ddyfodol ein hunig sianel deledu Gymraeg."
"Byddwn yn pwyso nawr ar ein Haelodau Cynulliad a phartïon eraill sydd yn ymwneud â'r byd darlledu i gymryd o ddifrif yr her sydd yn ein hwynebu yng Nghymru a chefnogi ein galwad i ddatganoli darlledu i Gymru."
Daeth penderfyniad hefyd i gydweithio gydag undebau a mudiadau eraill yng Nghymru er mwyn sefydlu awdurdod cysgodol S4C a fydd yn bwrw golwg dros waith y sianel er mwyn osgoi sefyllfa debyg i'r un a welwyd eleni.
Cynnig llawn a basiwyd gan Senedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
31 Hydref 2011
|
|