Fe gaiff Llywodraeth Cymru ei rhybuddio am yr effaith ieithyddol o ail-strwythuro cynghorau lleol wythnos nesaf (Dydd Sadwrn, 8fed Hydref).
Mae'r pryderon ieithyddol yn dilyn anfodlonrwydd awdurdodau lleol gyda chynlluniau i orfodi newidiadau arnynt. Yng nghyfarfod cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (ar yr 8fed o Hydref), disgwylir i aelodau resynu'r penderfyniad i benodi comisiynwyr i redeg gwasanaethau lleol.
Cyfeiria'r aelodau yn benodol at y sefyllfa yn Ynys Môn ble mae dau allan o dri chomisiynydd a benodwyd gan Lywodraeth Cymru yn ddi-Gymraeg ac yn methu cyflawni eu gwaith drwy'r Gymraeg.
Yn siarad cyn y cyfarfod yn Wrecsam ddydd Sadwrn nesaf, dywedodd Bethan Williams Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Rydyn ni'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn cymryd camau i wella sefyllfa'r iaith o fewn awdurdodau lleol wrth ystyried yr ail-drefnu, ond mae newidiadau i awdurdodau lleol ar y trywydd anghywir ar hyn o bryd. Mae penodi comisiynwyr na allant wneud eu gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg i redeg y cyngor yn Ynys Môn yn uniongyrchol niweidiol i'r iaith ac yn rhoi'r argraff nad yw'r llywodraeth yn ystyried y Gymraeg o ddifrif.
"Wrth i'r llywodraeth ym mae Caerdydd ystyried gwneud newidiadau pellach i awdurdodau lleol, mae'n rhaid iddynt ystyried yr effaith ar y Gymraeg. Dyna pam mae'r drafodaeth yn ein cyfarfod cyffredinol yn Wrecsam yn amserol iawn.
"Gall symudiad tuag at uno gwasanaethau cyhoeddus a chreu'n ymarferol Gynghorau Rhanbarthol danseilio polisi clodwiw Cynghorau fel Gwynedd o weinyddu yn Gymraeg. Mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus gyflawni eu gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg, yn hytrach na dangos ffrynt dwyieithog yn unig i'r cyhoedd."
30 Medi 2011
|
Mwy...
|