Mae'r IWW yn dal i fodoli heddiw ac yn araf deg mae sylw yn troi i'w syniadau fel esiampl ffres ar gyfer yr 21ain canrif. Yn America mae’r undeb wedi llwyddo yn erbyn Starbucks. Does dim rhaid bod yn weithiwr 'diwydiannol' i fod yn aelod a does dim cysylltiad gan yr Undeb gyda phleidiau gwleidyddol.
Mae'r IWW (Industrial Workers of the World) yn undeb llafur gyda hanes anrhydeddus a dewr. Ffurfiwyd yn America dros 100 mlynedd yn ol, roedd ganddi ganodd o filoedd o gefnogwyr ar ddechrau'r 20fed ganrif.
Er i ni gael ein dysgu bod yr USA yn ddemocrataidd cafodd bobol yr IWW eu gormesu, banio a llawer eu lladd gan y bosys a’r llywodraeth oedd yn benderfynol o stopio'r gweithwyr ennill cyflogau teg a hawliau.
Enillodd yr IWW llawer a chafodd eu syniadau dylanwad mwy byth. 100 mlynedd yn ol wnaethon nhw lwyddo cael y diwrnod gwaith 8 awr cyntaf - peth radical iawn pryd hynny, ond wedi dod yn gyffredin heddiw.
Yn bell cyn i arweiniad Martin Luther KIng, bu’r IWW un o’r ychydig o fudiadau i uno aelodau o bob lliw a chefndir ar adeg pan roedd hiliaeth, rhagfarn a chasineb yn rhannu pobol ar draws America.
Chwaraeodd ferched rhan amlwg iawn yn holl frwydrau’r undeb, yn hir o flaen yr oes fodern. Cyn i ferched ennill yr hawl i bleidleisio mewn etholiadau roedd llawer o brif arweinwyr yr IWW yn ferched.
Daeth lawer o ganeuon o frwydrau'r undeb, mae delwedd rhamantus wedi tyfu o amgylch yr 'Wobblies' (enw ar aelodau yr IWW). Mae hefyd llawer o eiriau wedi dod i'r Saesneg o hanes yr IWW.
Noson Film
Eat The Rich
Merch. 27. 1. 10
Caffi'r Ddraig Goch,
Caernarfon ++ mwy
Lluniau
Taith Hanes
"Y Chwyl-DRO"
Llanberis ++ mwy
Gobeithio sefydlu canghennau o'r IWW yn y De a Gogledd Cymru.
Beth am ymuno ?