tafod.jpg hafan cymdeithas.com deiseb-cyig10-2.gif
ffurflen-cyig10.gif
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Rali Mesur Iaith, Porthmadog

rali-port.jpg

19 Mehefin 2010 | Mwy...

 

Ysgol Treganna: "hollol annheg i adael Plant Cymraeg mewn limbo"

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhuddo Prif Weinidog Cymru o "gadael plant mewn limbo" oherwydd y penderfyniad i wrthod gadael i Gyngor Caerdydd symud Ysgol Treganna i adeilad fwy o faint er mwyn darparu ar gyfer y galw cynyddol.

Dywedodd Ffred Ffransis, Llefarydd Addysg Cymdeithas yr Iaith:

"Mae'n hollol annheg fod yn rhaid i'r plant ddioddef oherwydd anallu gwleidyddion i ddyfeisio atebion cyfiawn i rai sy'n dymuno addysg Gymraeg ac i gymunedau lleol. Dylai pawb dod at ei gilydd gyda'r nod o sicrhau ysgol gyfrwng Cymraeg ym mhob cymuned o Gaerdydd fel na ddaw pwysau gor-lenwi yn y dyfodol."

"Mae'n warthus bod llawer o rieni di-Gymraeg sydd am i'w plant dderbyn addysg Gymraeg yn cael eu gadael mewn limbo wrth fod un haen o lywodraeth yn beio'r llall. Mae'r sefyllfa hon yn cael ei hailadrodd mewn nifer o lefydd eraill yng Nghymru - megis Rhydaman - hefyd."

Dywedodd Nia Williams, sydd yn rhiant i blant yn Ysgol Treganna:

"Rydyn ni'n gandryll. Mae'r ysgol yn fwy na gorlawn. Mae'r Cynulliad yn cyfiawnhau'r anffafriaeth ieithyddol sy'n bodoli yng nghymuned Treganna. Mae adnoddau ac adeiladau'r ysgol yn annigonol i gwrdd ag anghenion addysgol."

28 Mai 2010 |

 

'Cyfle i wella'r Mesur Iaith', AS yn cytuno ag ymgyrchwyr

Jonathan Edwards rali.jpgMae Aelod Seneddol Plaid Cymru, Jonathan Edwards wedi argymell cryfhau cynlluniau Llywodraeth Cymru am Fesur Iaith newydd mewn araith i ymgyrchwyr iaith.

Mae'r sylwadau yn dod yn sgil pryderon arbenigwyr ieithyddol, cyfreithwyr, a'r Llywydd Dafydd Elis-Thomas am y ddeddfwriaeth arfaethedig. Mae'r Mesur Iaith wedi derbyn beirniadaeth lem oddi wrth sawl cyfreithiwr a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Mewn llythyr agored, fe ddywedodd 13 cyfreithiwr: "Yn ein barn ni, i raddau'n unig y mae'r Mesur hwn yn cyflawni'r amcanion a amlinellwyd yng nghytundeb Cymru'n Un. Ofnwn fod y Mesur yn greadur llai effeithiol nag y gallasai fod i ddylanwadu'n gadarnhaol ar yr hinsawdd ieithyddol yng Nghymru."

Cynhaliwyd ymgyrchwyr y rali i brotestio am ddiffyg presenoldeb hawliau a statws swyddogol yn y Mesur a hefyd pryderon ynglyn â dyfodol S4C.

24 Mai 2010 | Mwy...

 

Mwy o newyddion...

Ein ymateb i'r Mesur Iaith Gymraeg

4 Mawrth 2010 |

 

Mwy o fideos...

Newyddion
Rali Mesur Iaith, Porthmadog
19 Mehefin, 2010
Ysgol Treganna: "hollol annheg i adael Plant Cymraeg mewn limbo"
28 Mai, 2010
'Cyfle i wella'r Mesur Iaith', AS yn cytuno ag ymgyrchwyr
24 Mai, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Rali Mesur Iaith, Porthmadog
19 Mehefin, 2010
MaesB 2010 - Eisteddfod Glyn Ebwy
31 Gorffennaf, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig